Robin Williams (llenor)
Roedd Robin Williams (y Parch R. O. G. Williams, 1923 – Rhagfyr 2003) yn bregethwr, yn gyflwynydd teledu ac yn awdur.[1] Cafodd ei eni ym Mhenycaerau, Llŷn, a'i fagu yn Llanystumdwy. Fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru Bangor, ac yng Ngholeg Diwinyddol yr Eglwys Bresbyteraidd yn Aberystwyth.[2] Roedd yn aelod o Driawd y Coleg a oedd yn canu ar y rhaglen radio Noson lawen a gynhyrchwyd gan yr enwog Sam Jones. Treuliodd gyfnodau yn weinidog yn Ninmael a Phenrhyndeudraeth. Ddechrau'r saithdegau gadawodd y weinidogaeth a symud i Ros-lan ger Cricieth, gan weithio ar ei liwt ei hun fel awdur a darlledwr. Bu ganddo golofn wythnosol yn Yr Herald Cymraeg. Bu'n cyflwyno'r rhaglenni teledu crefyddol Dechrau Canu, Dechrau Canmol a Seiat Holi'r Naturiaethwyr ar S4C. Bu'n crwydro'r wlad gyda'i ddarlith enwog 'Y Tri Bob', sef Bob Owen, Croesor, Bob Lloyd (Llwyd o’r Bryn) a Bob Tai’r Felin. Cyhoeddodd 14 cyfrol, gan gynnwys ysgrifau a llyfrau taith, a'i gyfrol enwocaf Y Tri Bob (Gwasg Gomer, 1970). Brawd iddo oedd John Griffith Williams. Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia