Robert Jones, Rhoslan
Pregethwr, athro ac awdur ar bynciau crefyddol oedd Robert Jones (13 Ionawr 1745 - 18 Ebrill 1829), a adwaenir fel Robert Jones, Rhoslan. Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur Drych yr Amseroedd (1820).[1] BywgraffiadGanwyd ef ar fferm y Suntur, Llanystumdwy, ac addysgwyd ef yn un o ysgolion cylchynol Griffith Jones. Yn ddiweddarach daeth ef ei hun yn athro yn yr ysgolion cylchynol hyn mewn nifer o leoedd yng ngogledd Cymru. Roedd yn aelod o'r Methodistiaid Calfinaidd, a daeth yn amlwg fel pregethwr iddynt.[1] Priodiodd Magdalen Prichard a symudodd i Roslan, lle defnyddiai ran o'i dŷ fel capel Methodistaidd. Yn ddiweddarach symudodd i Ddinas, Llŷn. Roedd ganddo bedwar o blant. Claddwyd ef ym mynwent Llaniestyn. Drych yr AmseroeddEi gyfrol enwocaf yw Drych yr Amseroedd, sy'n rhoi hanes yr Ymneilltuwyr cynnar yng Ngwynedd a'r erledigaeth a fu arnynt. Mae'n ffynhonnell bwysig i haneswyr crefydd a chymdeithas yn ail hanner y 18fed ganrif yng Nghymru ac yn nodweddiadol am ei arddull bywiog a'i frasluniau cofiadwy o bobl a digwyddiadau. LlyfryddiaethCyhoeddiadau
Astudiaethau
Cyfeiriadau |
Portal di Ensiklopedia Dunia