Robert Herbert Williams
Cerddor o Gymro oedd Robert Herbert Williams (1805 – 20 Tachwedd 1876). CefndirGanwyd ym mhlwyf Bangor, Sir Gaernarfon. Pan oedd yn fachgen, symudodd ei deulu i Lerpwl. Cafodd ei fagu fel dilledydd ac roedd ei deulu yn cadw siop ar Basnett Street ar gongl Williamson Square, Lerpwl. CerddoriaethYn 17 oed, cyfansoddodd yr emyn 'dymuniad' a chafodd ei weld gyntaf yn Y Drysarfa yn Ionawr 1835. Cafodd ei chyhoeddi wedyn yng Nghasgliad o Ddarnau ym 1843. Mae o wedi cyfansoddi sawl emyn arall ac wedi cyhoeddi casgliad bach ohonynt ym 1848 o dan yr enw Alawydd Trefriw. Blynyddoedd olafAm rai flynyddoedd, roedd yn byw yn Drogheda, Iwerddon. Dychwelodd i Lerpwl am gyfnod cyn mynd i fyw i Corfandy, Porthaethwy pan oedd yn wael nes iddo farw ar yr 20fed o Dachwedd 1876. Mae ei fedd ym mynwent Llantysilio. Ffynonellau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia