Robert Fludd
Meddyg ac athronydd cyfriniol o Loegr oedd Robert Fludd (Lladin: Robertus De Fluctibus; 1574 – 8 Medi 1637). Ysgrifennodd ddiffyniadau o Rosgroesiaeth, gweithiau diwinyddol, a thraethodau beirniadol ar wyddoniaeth o safbwynt yr ocwlt. BywgraffiadGanwyd i deulu cefnog yn Bearsted, Caint. Enillodd gradd baglor, gradd meistr, a doethuriaeth o Goleg Sant Ioan, Rhydychen, cyn iddo dreulio chwe mlynedd yn crwydro'r Cyfandir. Dychwelodd i Rydychen yn 1605 i astudio meddygaeth ac ymunodd â Choleg y Meddygon yn 1609. Gweithiodd yn feddyg yn Llundain.[1] SyniadaethRoedd Fludd yn ddilynwr brwd o Paracelsus a fe'i ysbrydolwyd yn gryf gan lên y Rhosgroesogion. Yn ei waith, cyflwynodd ddamcaniaeth ocwlt unedig ar sail dealltwriaeth gyfriniol o fathemateg, gwyddoniaeth, a meddygaeth. Gwrthwynebai Aristoteliaeth, Galeniaeth, ac athroniaeth fecanyddol, gan dynnu ar Lyfr Genesis, Hermetigiaeth, a Chabala i ddoethinebu ar bynciau natur a chrefydd. Dadleuodd Fludd yn erbyn rhesymoliaeth a syniadau newydd y Chwyldro Gwyddonol, gan ddibynnu ar hen wyddorau'r Oesoedd Canol megis alcemeg, sêr-ddewiniaeth, dewiniaeth sympathetig, rhifoleg, a llawddewiniaeth.[2] Ffrae â KeplerBeirniadodd Johannes Kepler ei syniadau anwyddonol am y cosmos yn 1619, gan iddo ystyried bod angen astudiaeth fathemategol o'r bydysawd er mwyn ei ddeall yn hytrach na dadleuaeth astrus megis gwaith Fludd. Ymatebodd Fludd drwy ladd ar fathemateg Ewclid, yr hen Roegwr a osododd seiliau'r dulliau a ddefnyddid gan Kepler.[2] Ffrae â MersenneYn 1623, cyhoeddodd yr athronydd Marin Mersenne feirniadaeth o ddewiniaid ac alcemegwyr, gan gynnwys Fludd, a'u cyhuddo o holl-dduwiaeth ac heresi. Amddiffynnodd Flud syniadaeth ei hunan a thraddodiad dewiniaeth yn gyffredinol.[2] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia