Rio Grande
![]() Afon yn Unol Daleithiau America a Mecsico yw'r Rio Grande, a adnabyddir ym Mecsico fel y Río Bravo del Norte neu Río Bravo. Hu yw'r bedwaredd hwyaf ymhlith afonydd yr Unol Daleithiau. Ceir tarddle'r afon yn Fforest Genedlaethol y Rio Grande yn nhalaith Colorado. Mae'n llifo tua'r de trwy dalaith New Mexico. Wedi croesi i dalaith Texas ger El Paso, mae'n llifo tua'r de-ddwyrain gan ffurfio'r ffin rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico yr holl ffordd i'w haber yng Ngwlff Mecsico. Ymhlith yr afonydd sy'n llifo i mewn iddi mae'r Río Conchos ac afon Pecos. Y prif groesfannau dros yr afon rhwng y ddwy wlad yw Ciudad Juárez ac El Paso; Presidio, Texas, ac Ojinaga, Chihuahua; Laredo, Texas, a Nuevo Laredo, Tamaulipas; McAllen-Hidalgo, Texas, a Reynosa, Tamaulipas; a Brownsville, Texas, a Matamoros, Tamaulipas. |
Portal di Ensiklopedia Dunia