Actor Americanaidd yw Rico Rodriguez (ganed 31 Gorffennaf1998). Mae'n fwyaf adnabyddus am chwarae Manny Delgado yn y sitcom Americanaidd Modern Family ar ABC. Ysgrifennodd lyfr a gyhoeddwyd yn 2012.
Bywyd cynnar
Ganed Rodriguez yn Bryan Texas, yn fab i Diane a Roy Rodriguez, sy'n berchen siop deiars o'r enw Rodriguez Tire.[1] Mae ganddo frody Ray a Roy Jr., a a chwaer Raini Rodriguez, sydd yn actores.[2] Mae o dras Mecsicanaidd Americanaidd.[3]
Gyrfa
Rodriguez yn Mehefin 2010.
Nid oedd Rodriguez wedi ystyried dod yn actor nes oedd yn 8 mlwydd oedd, pan ddechreuodd ei chwaer yn y busnes, gan ddweud yn 2010 ei fod yn meddwl y byddai'n "gogydd NASCAR yn mynd i'r lleuad".[4] Yn Medi 2009, dechreuodd chwarae Manny Delgado yn Modern Family.[5] Cyd-enillodd Wobr y Screen Actors Guild am Berfformiad Neilltuol gan Ensemble mewn Cyfres Gomedi ar ddau achlysur (2011 a 2012), ynghyd â gweddill y cast, gyda enwebiad am yr un wobr yn 2010.[6] Ysgrifennodd lyfr a gyhoeddwyd yn 2012 o'r enw Reel Life Lessons... So Far.[7]