Richard d'Avranches, 2il Iarll Caer
![]() Ail Iarll Caer oedd Richard d'Avranches (1094 – 1120). Olynodd ei dad Huw Flaidd pan fu farw yn 1101. Rheolai o'i gastell yn ninas Caer ac, fel ei dad, bu ganddo ran bwysig yn hanes Teyrnas Gwynedd wrth i arglwyddi Normanaidd y Mers geisio cryfhau ac ymestyn eu hawdurdod yng ngogledd Cymru. HanesRoedd yn fab i Huw gan ei wraig Ermentude o Clermont. Mae'n debyg nad etifeddodd yr iarllaeth yn swyddogol tan 1107 gan nad oedd ond 7 mlwydd oed pan laddwyd ei dad. Priododd Lucie-Mahaut, merch Stephen de Blois. Yn 1114 cymerodd ran yn yr ymgyrch yn erbyn Gwynedd gan y brenin Harri I o Loegr. Doedd Gruffudd ap Cynan, brenin Gwynedd, ddim yn ddigon cryf i wrthsefyll ac ildiodd. Er i Gruffudd ildio, llwyddodd i ddal ei deyrnas a daeth dim llawer o'r ymgyrch. Boddodd pan suddwyd y Llong Wen yn 1120, yn 26 oed. Aeth yr iarllaeth, trwy law Maud, chwaer Huw d'Avranches, i Ranulf I, yn 1121. |
Portal di Ensiklopedia Dunia