Richard Trefor (1558 - 1638)
Tirfeddiannwr pwerus, gwleidydd a milwr oedd Syr Richard Trefor (1558–1638), Trefalun (neu 'Drefalyn'), Maelor, (Sir Ddinbych yn y cyfnod hwnnw). Ef oedd mab hynaf Sion Trefor (m. 1589); ef hefyd oedd etifedd Ystâd Trefalun pan fu farw ei dad yn 1589. Fel gweddill ei frodyr, ei noddwr oedd Howard o Effingham (sef Charles Howard, Iarll 1af Nottingham), yr arglwydd-lyngesydd, a'i gwnaeth ef yn is-lyngesydd yng Ngogledd Cymru yn 1596.[1] Heriai uwchafiaeth teulu Salusbury Lleweni a theulu Almer (Dorset). Priododd Catrin, merch Roesier Puleston o Emral a chawsant bedair o ferched. Oherwydd hynny, trosglwyddwyd Ystad Trefalun i'w nai, y Piwritan Syr John Trevor (1596–1673). Bu'n gwasanaethu yn Iwerddon rhwng 1595-8, lle gwnaed ef yn farchog ac yn arglwydd-ddirprwy ar 8 Mai 1597; bu'n Weinyddwr militaraidd yr ynys ac yn gapten y milwyr hynny a godid yn Sir Ddinbych. Yn 1602 gwnaed ef yn aelod o Gyngor Cymru a'r Gororau. Rhwng 1596 a 1626 roedd yn Is-Lyngesydd Gogledd Cymru. Cyflwynwyd ef i'r Senedd yn 1597 gan Howard o Effingham - dros un o'i fwrdeisdrefi, yn dâl am wasanaeth a roes Trefor fel dirprwy-raglaw yn Sir Ddinbych (1596) yn codi milwyr ar gyfer ymgyrch Howard ac Essex ar Cadiz. Capteiniaid eraill Essex oedd yr uchelwyr John Salusbury, Rhug a John Lloyd, Bodidris. Bu i fab John Lloyd ac un o ferched Trefor briodi ei gilydd. Yn 1598 arweiniodd lu Gogledd Cymru i Gaer yn barod i'w hanfon i Iwerddon ond cyrhaeddodd Gaer heb y nifer cyflawn a ofynwyd amdano o sir Ddinbych; y rheswm dros y diffyg yn y niferoedd oedd iddo wrthod derbyn y milwyr newydd a gasglwyd ynghyd gan bleidwyr teulu Lleweni. Ceisiodd aelodau teulu Llewenni atal Trefor rhag codi milwyr yn Sir Ddinbych i ymladd dros Essex yn Iwerddon. Bu ysgarmes waedlyd yn Rhuthyn yn 1600 rhwng y ddwy ochor, y ddau deulu. Yn 1601 casglodd Trevor gynorthwywyr lleol gyda'r bwriad o geisio am y tro olaf ennill sedd seneddol y sir, ond methiant fu'r ymdrech ond plaid Llewenni a orfu. Cymerwyd y swydd o ddirprwy-raglaw oddi wrtho a throdd at ymgyfreithio yn Llys Ystafell y Seren mewn achosion yn ymwneud â'r gwaith codi milwyr yn 1596 a 1600 ac etholiad 1601. Dychwelodd i Iwerddon lle bu rhwng 1603-6, yn bennaeth 50 o wŷr traed ac wedi hynny, 25 o wŷr meirch yng ngwarchodlu Newry.[2] Treforiaid TrefalunCeir sawl aelod dylanwadol iawn o'r teulu gan gynnwys (yn nhrefn dyddiad marw):
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia