Richard Lewis (cynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu)
Cyfarwyddwr a chynhyrchydd teledu oedd Haydn Richard Paredur Lewis (1938 – 15 Rhagfyr 2016).[1][2] MagwraethMagwyd yn fab i'r Parch. Haydn Lewis, Ton Pentre, enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhosllannerchrugog 1961 ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Barri 1968. Mynychodd Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Ton Pentre ac yna Coleg y Drindod, Caerfyrddin lle bu'n fyfyriwr ac o dan ddylanwad Norah Isaac. Yn 1958 bu farw ei unig chwaer, Carol, yn ddisymwth. Cafodd yr ergyd hon effaith fawr ar y Richard ac ar y teulu. Wedi graddio yn y Drindod, cafodd swydd athro yn dysgu yn Ysgol Uwchradd Tŷ Ddewi, Sir Benfro. GyrfaGadawodd ei swydd fel athro i weithio i adran ffeithiol BBC yng Nghaerdydd. Wedi cyfnod yn gweithio ar raglenni dogfen a newyddion fel 'Heddiw' aeth ymlaen i gynhyrchu a chyfarwyddo cyfresi drama a dramâu unigol. Wedi cyfnod o drideg mlynedd yn y BBC, aeth Richard i weithio i gwmni teledu annibynnol Opus. Deliodd ei gynhyrchiadau yn ddwys ag hanes Cymru ac hynny yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ymysg ei gyfresi oedd Y Palmant Aur am hanes teulu o Geredigion yn ymfudo i Lundain i weithio yn y diwydiant llaeth; Dylan (ar Dylan Thomas); Nye (ar Aneurin Bevan); The Extremist (am John Barnard Jenkins, Mudiad Amddiffyn Cymru; The Fasting Girl (am Sarah Jacobs) a Shadowlands (perthynas y bardd, C.S. Lewis a Joy Gresham). Enillodd BAFTA Cymru am ddrama i S4C, Nel. CyhoeddiCyhoeddodd Richard hunangofiant Out of the Valley[dolen farw] (Gwasg y Lolfa, 2010) TeuluRoedd yn fab i'r prifardd, L. Haydn Lewis, enillydd y y Goron yn Eisteddfodau Y Rhos 1961 a'r Barri, 1968. Priododd Richard â Bethan yn 1964. Ganwyd 3 plentyn; Elen, Siôn a Gwenllian. Bu Siôn yn aelod o sawl grŵp pop gan gynnwys Edrych am Jiwlia ac Y Gwefrau. Roedd Gwenllian yn un o brif leiswyr Y Gwefrau. Roedd yn dad-cu i 4 ŵyr a 2 ŵyres. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia