Richard Bulkeley Williams-Bulkeley
Roedd Syr Richard Bulkeley Williams-Bulkeley, y 10fed barwnig o Baron Hill ger Biwmares (23 Medi 1801 – 28 Awst 1875) yn dirfeddiannwr ac yn Aelod Seneddol. GyrfaGanwyd Richard Bulkeley Williams, fel ei bedyddiwyd, yn fab ac etifedd i Syr Robert Williams y 9fed barwnig ac Anne Lewis ei wraig. Fe newidiodd ei enw i Williams-Bulkeley trwy drwydded frenhinol ar ôl iddo etifeddu ystadau ei hanner ewyrth Thomas James Bulkeley 7fed is-iarll Bulkeley.[1] Fe gynrychiolodd Syr Richard nifer o etholaethau Gogledd Cymru yn San Steffan yn gyntaf fel Whig ac yno fel Rhyddfrydwr. Yn etholiad 1831 etholwyd Williams-Bulkeley yn AS Etholaeth Biwmares; ym 1832 fe'i etholwyd dros etholaeth Sir Fôn. Fe barhaodd yn AS Môn hyd 1837. Ym 1841 fe'i etholwyd dros Bwrdeistrefi’r Fflint lle fu'n AS hyd 1847, pan gafodd ei ethol am yr ail dro dros Sir Fôn, cynrychiolodd Môn hyd ei ymddeoliad o'r Senedd ym 1868 [2] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia