Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr

Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr
Enghraifft o:rhyfel Edit this on Wikidata
Rhan oRhyfel Cartref Lloegr Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1642 Edit this on Wikidata
Daeth i ben1646 Edit this on Wikidata
LleoliadCymru a Lloegr Edit this on Wikidata
Yn cynnwysBrwydr Gyntaf Newbury, Ail Frwydr Newbury, Brwydr Lansdowne Edit this on Wikidata

Rhyfel rhwng plaid Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban, a phlaid y Senedd a barodd o 1642 tan 1646 oedd Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr. Roedd yn rhan o Ryfel Cartref Lloegr, ac felly'n rhan o Ryfeloedd y Tair Teyrnas, oedd yn cynnwys Rhyfel Cartref yr Alban (1644–1645) a Rhyfel Cynghreiriaid Iwerddon (1642–9).

Roedd y rhyfeloedd yn ganlyniad anghydfod rhwng y brenin a'i ddeiliaid, ynghylch crefydd ac ynghylch hawliau'r brenin. Rhyfel rhwng plaid y brenin a phlaid y Senedd ydoedd, a ddechreuodd pan gododd Siarl I ei faner yn Nottingham ar 22 Awst 1642. Y prif frwydrau oedd Brwydr Edgehill, Brwydr Marston Moor a Brwydr Naseby. Y canlyniad oedd buddugoliaeth y blaid Seneddol yn Lloegr, dan Oliver Cromwell erbyn diwedd y rhyfel. Wedi i'w fyddin gael ei dinistrio gan y Seneddwyr yn Naseby a Langport, ffodd y brenin at y fyddin Albanaidd yn Southwell, Swydd Nottingham ym mis Mai 1646, a daeth y Rhyfel Cartref Cyntaf i ben.

Tiriogaethau a ddelid gan blaid y brenin (coch) a'r Senedd (gwyrdd), 1642–45

Gweler hefyd

 

Prefix: a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9

Portal di Ensiklopedia Dunia