Rhydderch ap Iestyn
Roedd Rhydderch ab Iestyn (bu farw 1033) yn frenin Gwent a Morgannwg yn ne Cymru ac yn ddiweddarach yn frenin Deheubarth ac yn rheoli Powys. Ychydig sydd wedi ei gofnodi am Rhydderch ab Iestyn yn y brutiau. Ymddengys iddo ddechrau ei yrfa fel rheolwr Gwent a Morgannwg, lle’r oedd prif ganolfan ei fab yn nes ymlaen. Pan fu farw Llywelyn ap Seisyll, brenin Gwynedd a Deheubarth yn annisgwyl yn 1023, cymerodd Rhydderch feddiant o Ddeheubarth, trwy rym i bob golwg. Yn 1033 cofnododd Brut y Tywysogion fod Rhydderch wedi ei ladd gan y Gwyddelod, ond heb eglurhad o’r amgylchiadau. Dychwelodd Deheubarth i’r tŷ brenhinol traddodiadol dan Hywel ab Edwin a’i frawd Maredudd. Cofnodwyd i Hywel a Maredudd ymladd brwydr yn erbyn meibion Rhydderch y flwyddyn ganlynol. Yn 1045 gallodd mab Rhydderch, Gruffudd ap Rhydderch, gipio Deheubarth oddi wrth Gruffudd ap Llywelyn a dal gafael ar y deyrnas am ddeng mlynedd nes i Gruffudd ei chymeryd yn ôl Llyfryddiaeth
|
Portal di Ensiklopedia Dunia