Rhif Llyfr Safonol RhyngwladolRhif cofrestru a ddefnyddir yn y fasnach lyfrau yw'r Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol (ISBN o'r Saesneg International Standard Book Number). Fe'i defnyddir yn helaeth gan siopau llyfrau a llyfrgelloedd er enghraifft. Rhoddir rhif arbennig i bob llyfr a gyhoeddir, ond nid i gyfnodolion (defnyddir ISSN). Rhoddir un Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol unigol wedi ei gofrestri i bob llyfr, a dydy'r rhif ddim yn newid pan adargraffir - heblaw mewn argraffiad newydd â testun wedi newid yn sylweddol - ond mae rhif llyfr clawr meddal yn wahanol i un clawr caled. Beth bynnag, nid oes Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol ar bob llyfr am nad yw llawer o wasgau bychain yn cofrestru eu llyfrau. HanesRoedd pobl yn Ewrop yn ystyried cyflwyno rhif cofrestru llyfrau ers y 1960au ac ym 1968 cychwynnodd y Sefydliad Safonau Rhyngwladol (ISO) weithgor i gynllunio rhif felly. Ym 1972 daeth ISO 2108 ar gyfer y Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol i rym. Cyn 2007 defnyddiwyd rhif cofrestru wahanol yn Unol Daleithiau, ond ers 1 Ionawr 2007 newidiodd hynny gyda'r cynllun i ddefnyddio rhifau hirach 13 digid (safon EAN-13). Ystyr y rhifMae'r Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol yn cynnwys côd ar gyfer gwlad, gwasg a teitl y llyfr yn ogystal â swm prawf (checksum). Fel arfer, mae cysylltnod (-) rhwng pob côd.
|
Portal di Ensiklopedia Dunia