Resbiradaeth cellog
Hunanborthwyr: Planhigion, algae a sawl math o facteria Cyfansoddion organig Heterotroffiaid: Anifeiliaid, ffwng a sawl math o facteria Term mewn bioleg ydy resbiradaeth cellog (neu'n syml: anadlu o fewn celloedd) sy'n disgrifio'r prosesau oddi fewn i gelloedd planhigyn ble mae carbon deuocsid yn cael ei dynnu i mewn i'w celloedd ac ocsigen yn cael ei waredu fel gwastraff. Mae'r broses yma oddi fewn yr organeb (yn y dail, fel arfer) yn trosi (neu newid) ynni biocemegol o faeth (nutrients) i adenosine triphosphate (ATP).[1] Gelwir yr adweithiau hyn yn adweithiau catabolig a'u heffaith yw torri i lawr y moleciwlau mawr yn foleciwlau llai gan ryddhau ynni yn y broses. Mae resbiradu cellog, felly, yn un o'r prif ddulliau mae'r gell yn cael ei ynni i wneud ei waith. Ymlith y prif faethau sy'n cael ei ddefnyddio gan anifeiliaid a phlanhigion y mae: siwgwr ac asid amino. Mae'r ynni sy'n cael ei storio o fewn yr ATP yna'n cael ei ddefnyddio i yrru'r prosesau sydd angen ynni:biosynthesis, symudiad y celloedd neu yrru moleciwlau o un gell i'r llall drwy'r bilen (membrane). Resbiradaeth erobigHanfod resbiradaeth erobig ydy ocsigen. O'i dderbyn, gall y gell greu ATP. Mae hyn yn golygu fod yn rhaid i'r pyrwfad [2] (pyruvate) fynd i fewn i'r mitocondrin er mwyn cael ei ocsideiddio'n llawn gan "Gylchred Krebs" (sy'n ymwneud ag asid sitrig. Cynhyrchir ynni gan y broses hon ar ffurf ATP gan substrate-level phosphorylation, NADH a FADH2
Mae'r ΔG negyddol yn nodi y gall yr adwaith ddigwydd ar amrantiad. Cyfeiriadau
Gweler hefyd |
Portal di Ensiklopedia Dunia