Raymond Gower
Roedd Syr Herbert Raymond Gower (15 Awst, 1916 – 22 Chwefror, 1989) yn gyfreithiwr, yn newyddiadurwr ac yn wleidydd Ceidwadol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Y Barri o 1951 i 1983 a Bro Morgannwg o 1983 i 1989.[1][2] Bywyd PersonolGanwyd Gower yn Llansawel yn fab i Lawford Gower, pensaer a Julia Florence (née John) ei wraig. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Castell-nedd, Ysgol Uwchradd Caerdydd, Coleg Prifysgol Cymru, Caerdydd ac Ysgol y Gyfraith, Caerdydd. Ym 1973 Priododd Cynthia merch Mr a Mrs James Hobbs, ni fu iddynt blant. Bu'r Ledi Gower marw yn 2008 [3] GyrfaMethodd Gower prawf meddygol ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd gan hynny bu'n gwasanaethu fel swyddog cadetiaid. Cymhwysodd Gower fel cyfreithiwr ym 1944 a bu'n gweithio i'w bractis ei hun yng Nghaerdydd o 1948 i 1963. Ym 1964 aeth yn bartner yng nghwmni cyfreithiol S R Freed yn Llundain. Bu Gower yn golofnydd rheolaidd i bapur y Western Mail o 1950, bu hefyd yn gadeirydd Cwmni Cyhoeddi Penray Press a'r cwmni oedd yn cyhoeddi'r papur Lleol the Barry Herald. Gyrfa WleidyddolYm 1946 etholwyd Gower yn ysgrifennydd Cymdeithas Ceidwadol Dwyrain Caerdydd. Fe'i dewiswyd fel yr ymgeisydd Ceidwadol ar gyfer etholaeth Ogwr yn etholiad cyffredinol 1950 ond fe gollodd yn drwm i'r ymgeisydd Llafur, Walter Padley. Safodd eto yn etholiad 1951 fel ymgeisydd yn etholaeth y Barri gan lwyddo i gipio'r sedd oddi wrth y Blaid Lafur. Cadwodd ei sedd hyd ddiddymu'r etholaeth ym 1983. Ym 1983 fe'i etholwyd fel Aelod Seneddol etholaeth newydd Bro Morgannwg gan dal y sedd hyd ei farwolaeth ym 1989. Gwasanaethodd fel cadeirydd grŵp Aelodau Seneddol Ceidwadol Cymreig, a daeth yn drysorydd ar y Grŵp Seneddol Cymreig ym 1966. Bu'n aelod o'r Pwyllgor Dethol ar Wariant a Chynhadledd y Llefarydd ar Ddiwygio Etholiadol Gwasanaeth cyhoeddus amgenGwasanaethodd Gower ar nifer o gyrff cyhoeddus Cymreig, gan gynnwys:
Urddwyd Gower yn farchog ym 1974, a'i wneud yn Rhyddfreiniwr Bwrdeistref Bro Morgannwg ym 1977[4]. MarwolaethBu farw Gower yn ei gartref yn y Sili o drawiad ar y galon wedi gwario'r dydd yn canfasio dros y Ceidwadwyr yn isetholiad Pontypridd. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia