Radio Nisaa 96 FM

Radio Nisaa 96 FM
Ardal DdarlleduPalesteina
Dyddiad Cychwyn20 Mehefin 2010
TonfeddFM: 96
PencadlysRamallah, Y Lan Orllewinol
Perchennog Radio Nisaa
Gwefanwww.radionisaa.ps

Gorsaf radio yn Ramallah, Palesteina yw Radio Nisaa 96 FM (hefyd: NISAA FM neu Radio Nisaa). Mae'n disgrifio ei hun fel "radio masnachol, anwleidyddol sydd รข chenhadaeth i ddiddanu, hysbysu, ysbrydoli a galluogi merched Palesteina.[1] Cafodd ei lawnsio ar 20 Mehefin 2010 yn Ramallah gyda chymorth a nawdd y Smiling Children Foundation. Dyma'r orsaf radio gyntaf ar gyfer merched ym Mhalesteina.

Mae mwyafrif y staff yn ferched. Maent yn gweithio tuag at gael "integreiddio llawn a chyfartal i ferched yn y gymdeithas Balesteinaidd trwy gynyddu cyfathrach agored ac effeithiol rhwng merched yn y Lan Orllewinol ac yn Llain Gaza". Trwy wefan yr orsaf a chyfryngau digidol eraill, bydd merched Palesteinaidd yn gallu cyfrannu i'r orsaf yn uniongrychol ac felly'n cymryd rhan yn y fenter yn hytrach na bod yn wrandawyr yn unig. Er hynny, y gobaith yw bydd dynion yn dod yn wrandawyr hefyd.[2]

Cynigir gwasanaeth amrywiol sy'n cynnwys newyddion, cerddoriaeth, a rhaglenni am gymdeithas Palesteina gyda'r pwyslais ar le merched ynddi.[3]

Cyfeiriadau

  1. โ†‘ 'About', Radio Nisaa 96 FM.
  2. โ†‘ 'Une radio par et pour les femmes en Cisjordanie' Archifwyd 2010-06-25 yn y Peiriant Wayback, Radiomag.ch. 21 Mehefin 2010.
  3. โ†‘ Gwybodaeth Archifwyd 2010-06-25 yn y Peiriant Wayback, gwefan Nisaa FM

Dolenni allanol

 

Prefix: a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9

Portal di Ensiklopedia Dunia