Prifysgol Ruprecht Karl Heidelberg
Prifysgol ymchwil gyhoeddus yn yr Almaen yw Prifysgol Ruprecht Karl Heidelberg (Almaeneg: Ruprecht-Karl-Universität Heidelberg, Lladin: Universitas Ruperto Carola Heidelbergensis) a leolir yn Heidelberg yn nhalaith Baden-Württemberg. Hon ydy'r brifysgol hynaf yn yr Almaen. Sefydlwyd ym 1386 gan Ruprecht I, Etholydd Palatin y Rhein, ar batrwm Prifysgol Paris. Câi ei gwaddoli gan gyfres o golegau, yn gyntaf coleg Urdd y Sistersiaid a sefydlwyd ym 1389, ac yna'r coleg seciwlar a ffurfiwyd gan ganghellor y brifysgol ym 1390. Dirywiodd y brifysgol yn ystod helyntion crefyddol a gwleidyddol yr 17g a'r 18g, ond adenillai ei bri ar ôl cael ei ad-drefnu gan Karl Friedrich, Etholydd Baden, yn nechrau'r 19g. Cyfunwyd ei enw ag enw sylfaenydd y brifysgol i'w henwi'n Brifysgol Ruprecht Karl Heidelberg. Daeth yn ganolfan i astudiaethau'r gwyddorau, y gyfraith, ac athroniaeth..[1] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia