Prif Weinidog Gogledd Iwerddon
Arweinwyr llywodraeth ddatganoledig neu weithrediaeth Gogledd Iwerddon yw Prif Weinidog Gogledd Iwerddon (Gwyddeleg: Céad-Aire, Saesneg: First Minister, Sgoteg Ulster: Heid Männystèr) a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon. Mae'r llywodraeth ei hun yn cael ei ffurfio gan y brif bleidiau yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon ac mae'n rhaid i'r brif weinidog a'i ddirprwy fod yn aelodau o'r Cynulliad hwnnw. Ers mis Ionawr 2020, Arlene Foster a Michelle O'Neill yw'r Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog yn ôl eu trefn. Yn wahanol i'r sefyllfa mewn gwledydd eraill, mae'r un grymoedd yn union gan y Dirprwy Brif Weinidog a'r Prif Weinidog. Ers Cytundeb Gwener y Groglith, rhaid i un fod yn unoliaethydd a'r llall yn genedlaetholwr. Sefydlwyd y swydd yn 2001 pan ddaeth David Trimble yn brif weinidog cyntaf Gogledd Iwerddon. Bu'r swydd heb ddeiliad o 2002 hyd fis Mai 2007 oherwydd anghydfod gwleidyddol yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon. Ar yr 8fed o Fai 2007 apwyntiwyd y Parch. Ian Paisley yn Brif Weinidog. O 5 Mehefin 2008 tan 2016, Peter Robinson oedd y Prif Weinidog gyda Martin McGuinness yn Ddirprwy Brif Weinidog mewn cynllun rhannu grym rhwng yr Unoliaethwyr a'r Gweriniaethwyr. Cymerodd Arlene Foster yr awenau yn 2016, ond roedd y swydd yn wag eto rhwng 2017 a 2020. Prif Weinidogion
Gweler hefyd |
Portal di Ensiklopedia Dunia