Poulett George Henry Somerset
Roedd y Cyrnol Poulett George Henry Somerset CB (19 Mehefin 1822 - 7 Medi 1875) yn filwr ac yn wleidydd Prydeinig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Fynwy rhwng 1859 a 1871[1]. Bywyd PersonolRoedd Somerset yn fab i’r Arglwydd Charles Somerset a’i ail wraig y Ledi Mary Poulett. Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton a’r Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst Bu’n briod ddwywaith. Ar 15 Ebrill 1847 priododd Barbara Augusta Norah Mytton), merch John Mad Jack Mytton a Caroline Gifford ei wraig. Bu iddynt dau fab a ddwy ferch gan gynnwys
Bu Barbara marw 4 Mehefin 1870. Ar 10 Medi 1870 priododd ei ail wraig Emily Moore bu iddynt un ferch:
Gyrfa filwrolYmunodd â'r fyddin ym mis Mawrth, 1839, a bu'n gwasanaethu gyda Gwarchodlu Coldstream. Fe wasanaethodd ar staff yr ymgyrch Dwyreiniol ym 1854 fel aide de-camp i’w ewythr, yr Arglwydd Raglan[2]. Roedd yn bresennol ym mrwydrau Alma, Balaclava, lnkerman (lle cafodd ei geffyl ei ladd gan ffrwydrad), a bu’n rhan o warchae Sebastopol[3]. Am ei wasanaeth yn y Crimea dyfarnwyd iddo fedal a phedwar clespyn ym 1855 a’i godi yn Gydymaith Urdd y Baddon. Ymddeolodd o'r Gwarchodlu Coldstream ym mis Mawrth, 1854, gan ymadael o'r gwasanaeth trwy werthu ei gomisiwn ym mis Chwefror 1863. Roedd y Cyrnol Somerset hefyd wedi gwasanaethu gyda'r 7fed Ffiwsilwyr a Milisia 1af Durham. Gyrfa WleidyddolGwasanaethodd fel un o gynrychiolwyr Sir Fynwy yn Nhŷ'r Cyffredin o 1859 i 1871 ar y cyd a’i gefnder Charles Octavius Swinnerton Morgan. Ymadawodd a’r Senedd ym 1871 i wneud lle i'w berthynas, yr Arglwydd Henry Somerset[4]. MarwolaethBu farw yn Dundrum ger Dulyn a chladdwyd ei weddillion yng nghorff Eglwys Gadeiriol Bryste. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia