Plinius yr Ieuengaf
Awdur, cyfreithiwr ac athronydd Rhufeinig oedd Gaius neu Caius Plinius Caecilius Secundus, ganwyd fel Gaius neu Caius Plinius Caecilius (61/63 - tua 113), mwy adnabyddus fel Plinius yr Ieuengaf. Ganed ef yn Como yng ngogledd yr Eidal. Roedd yn nai ar ochr ei fam i Plinius yr Hynaf. Bu farw ei dad pan oedd yn ieuanc, a rhoddwyd ef dan ofal Lucius Verginius Rufus. Teithiodd i Rufain, lle bu'n dysgu rhethreg oddi wrth Quintilian a Nicetes Sacerdos o Smyrna. Pan fu farw ei ewythr, Plinius yr Hynaf, yn ystod ffrwydrad Vesuvius yn 79, gadawodd ei stad i Plinius yr Ieuengaf yn ei ewyllys. Daliodd Plinius nifer o swyddi pwysig; daeth yn gyfaill i'r hanesydd Tacitus a bu Suetonius yn gweithio iddo. Priododd dair gwaith. Credir iddo farw'n sydyn yn Bithynia-Pontus, tua 112 neu 113, pan oedd yn legatus Augusti yno. GweithiauDywedir i Plinius ddechrau ysgrifennu yn bedair ar ddeg oed, pan ysgrifennodd drasiedi mewn Groeg. Y corff mwyaf o'i waith i oroesi yw'r "Llythyrau" (Epistulae), wedi ei cyfeirio at ffrindiau. Mewn dau lythyr enwog mae'n disgrifio ffrwydrad Feswfiws a marwolaeth ei ewythr, Plinius yr Hynaf. Mewn llythyr arall mae'n gofyn i'r ymerawdwr Trajan am gyngor sut i ddelio a'r Cristionogion. Cyfeiriadau |
Portal di Ensiklopedia Dunia