Philip Yorke
Hynafiaethwr o Gymru oedd Philip Yorke (29 Gorffennaf 1743 – 19 Mawrth 1804), a aned yn Erddig, ger Wrecsam. Mae'n adnabyddus fel awdur y gyfrol The Royal Tribes of Wales (1799), sy'n drysorfa o wybodaeth i achyddwyr. Bywyd a gwaithAr ôl astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt a Lincoln's Inn, etifeddodd ystâd Erddig yn 1767. Daeth yn gymrawd o Gymdeithas yr Hynafiaethwyr yn 1768. Priododd â merch Piers Wyn o Ddyffryn Aled yn 1782. Am ei fod yn hannu o linach arglwyddi Uwch Dulas, daeth i ymddiddori yn achau teuluoedd uchelwrol y Gororau a Gogledd Cymru a'u hanes. Ffrwyth gyntaf ei ymchwil oedd y gyfrol Tracts of Powys (1795), gwaith sy'n cynnwys ymosodiad ar farn Polydore Vergil ar ddilusrwydd hanes traddodiadol Cymru fel y'i ceir yng ngwaith Sieffre o Fynwy. Ond prif waith Yorke yw'r gyfrol The Royal Tribes of Wales, sy'n dal i fod yn ffynhonnell bwysig i haneswyr. Mae'n cynnwys achau a hanes Pymtheg Llwyth Gwynedd a'u disgynyddion. Roedd Yorke yn rhigymwr medrus hefyd; cyhoeddwyd ei gasgliad o rigymau doniol fel Crude Ditties ymhell ar ôl ei farwolaeth, yn 1914. LlyfryddiaethGwaith Yorke
Llyfrau amdano
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia