Peter Ellis Eyton
Roedd Peter Ellis Eyton (1827 -19 Mehefin 1878) yn gyfreithiwr, yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig ac yn Aelod Seneddol dros Bwrdeistrefi Fflint Bywyd PersonolGanwyd Eyton ym 1827 yn y Fflint yn fab i James Eyton, cyfreithiwr a Mary (née Parry) ei wraig. Does dim sicrwydd o'i union ddyddiad geni ond cafodd ei fedyddio yn Eglwys Llanynys 8 Hydref 1827.[1] Cafodd ei addysgu yn y Wyddgrug a'r Liverpool Institute Roedd yn ddibriod. GyrfaWedi cymhwyso yn y gyfraith yn Lerpwl aeth i weithio yn siambrau cyfreithiol y teulu yn y Fflint. Yn ogystal â gweithio fel cyfreithiwr teuluol bu hefyd yn cyflawni nifer o ddyletswyddau cyfreithiol dinesig megis Clerc Cyngor Tref y Fflint, Clerc Ynadon Sir y Fflint a Chofrestrydd Llys Sirol y Wyddgrug. Tua 1869 cafodd ei daro gan salwch a achosodd parlys yn ei ddwy goes a'i fraich dde, bu yn gaeth i gadair Caerfaddon (math o gadair olwynion o'r 19g) am weddill ei oes. Gyrfa WleidyddolAr ôl dyrchafiad yr Aelod Rhyddfrydol Syr John Hanmer i Dŷ'r Arglwyddi ym 1872 etholwyd Syr Robert Alfred Cunliffe fel olynydd iddo yn ddiwrthwynebiad; penderfyniad nad oedd wrth fodd pawb yn y Blaid Ryddfrydol leol. Roedd Syr Robert yn fonheddwr o Sais, doedd o ddim yn byw yn yr etholaeth,[2] ac roedd yn llugoer at achos Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru. Penderfynodd Peter Ellis Eyton ei herio am y bleidlais Ryddfrydol yn etholiad cyffredinol 1874. Cafodd ei ethol gan wthio Syr Robert i'r trydydd safle a chrafu i'r brig gyda dim ond 4 pleidlais o fwyafrif dros yr ymgeisydd Ceidwadol.
Roedd honiadau yn y wasg bod Eyton wedi prynu ei sedd trwy roi yn hael i achosion megis clybiau gweithwyr, ysgolion Sul, capeli a chymdeithasau dirwest. Dwywaith yn ystod ei gyfnod yn y Senedd cafodd ei erlyn yn y llysoedd am beidio talu dyledion[3]; yr oedd y wasg Dorïaidd yn honni ei fod wedi mynd i ddyled oherwydd iddo wario ei holl arian ar lwgrwobrwyo'r etholwyr; ond gan iddo adael dros £4000 yn ei ewyllys[4] dim ond pedair blynedd ar ôl ei ethol mae'n annhebygol bod yr honiadau yn wir. Pan gafodd ei ethol yr oedd yn un o ddau aelod o'r Tŷ Cyffredin a oedd yn defnyddio cadair olwyn, y llall oedd Arthur Kavanagh AS Ceidwadol Swydd Carlow[5]. Roedd agwedd y wasg tuag at ei anabledd yn gymysglyd. Roedd papurau Torïaidd fel y North Wales Express yn ddilornus o'r ffaith bod yr etholaeth yn cael ei chynrychioli gan helpless cripple[6], tra fo'r wasg Ryddfrydol yn ei glodfori am fod yn aelod mor weithgar er gwaethaf ei anawsterau[7]. MarwolaethBu Peter Ellis Eyton farw yn ysbyty'r Rhyl ym 1878 a'i gladdu ym mynwent Eglwys Sant Saeran, Llanynys, mae cofeb iddo ar wal yr Eglwys.[8]. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia