Petah Tikva
![]() Mae Petah Tikva neu'n fwy clir o ran ynghanian Cymraeg, Petach Ticfa (Hebraeg: Ystyr yr enw yw "Porth/Agoriad Gobaith". Gelwir y dref hefyd yn Em HaMoshavot ("Mam yr Moshavot"). Gorwedd y ddinas 10.6 km (6.59 mi) i'r dwyrain o Tel Aviv. Sefydlwyd hi yn 1878, gan mwyaf gan aelodau Iddewig Uniongred o'r Hen Yishuv (cymuned Iddewig Israel cyn annibyniaeth). Daeth yn aneddle barhaol yn 1883 diolch i gymorth ariannol y Barwn Edmond de Rothschild. Yn 2017 poblogaeth y ddinas oedd 240,357.[1] Dwysedd ei phoblogaeth yw 6,277 person y km sgwâr a maint y ddinas yw 35,868 dunams (~35.9 km2 neu 15 sq mi). Mae Petach Tivfa yn rhan o Ardal Fetropolitan Tel Aviv. Hanes![]() Mae gan Petach Ticfa le arbennig yn mytholeg a datblygiad Seionistaieth a'r wladwriaeth Iddewig. Dyma oedd y pentref Iddewig gyfoes gyntaf a daeth ei methiant a llwyddiant yn destun gobaith a diddordeb i'r gymuned Iddewig, yr Yishuv ym Mhalesteina ac ar draws y byd Iddewig. Roedd ei sefydlu yn rannol ddiolch i ymdrechion ac athroniaeth mudiad Chofefei Tsion ac enwyd stryd yn y ddinas ar ôl y mudiad. Daeth yr arfer o enwi newydd trefi ar ôl rhannu o'r Beibl yn nodwedd o systeme enwi Seionistiaeth a daeth y broses o brynu tir (diffaith fel rheol) er mwyn ei ddatblygu yn nodwedd arall ar Seinistiaeth sy'n fyw hyd heddiw. SefydluSefydlwyd Petach Ticfa yn 1878 gan wladychwyr crefyddol Iddewig Ewropeaidd yn 1878. Dyma oedd y sefydliad amaethyddol fodern Iddewig yn ne talaith De Syria yr Ymerodraeth Otomanaidd. Roedd y tir yn dir sâl iawn yn llawn corsydd malaria. Prynwyd y tir gan ddau ddyn busnes Arabaidd Gristnogol o Jaffa. Caniatawyd i'r ddau werthu'r tir gan y Swltan, Hamid II am ei fod yn dir mor sal. Roedd y Swltan wedi gwahardd Iddewon rhag prynu dewis cyntaf y sefydlwyd oedd ger Jericho.[2] Cafwyd haint malaria yn 1880 a bu'n rhaid gadael y tirogaeth. Daeth ymfudwyr eraill o Bilu yn 1883 a gyda chefnogaeth ariannol gan y Barwn Edmond de Rothschild, sychwyd y cors a daeth dyfodol y fenter yn fwy diogel. [3] Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd Petach Ticfa yn ganolfan ar gyfer ffoaduriaid o Tel Aviv a Jaffa yn dilyn penderfyniad yr awdurdodau Otomanaidd i'w hel o'r trefi hynny oherwydd iddynt wrthod wasanaethu ym myddin yr Ymerodraeth yn erbyn y Prydeinwyr. Dioddefodd y dref yn drwm gan ei fod yn gorwedd rhwng ffrynt milwyr Otomanaidd a Phrydain 1917–1948![]() Dechreuodd diwydiant ddatblygu yn yr 1920au ac enillodd statws cyngor lleol gan yr awdurdodau Prydeinig a oedd yn llywodraethu Palesteina wedi'r Rhyfel Mawr. Gwelwyd terfysg gwrth-Iddewig yn ym Mai 1921 pan lladdwyd 4 Iddew.[4] Yn ôl cyfrifiad 1931, poblogaeth y dref oedd 6,880 mewn 1,688 tŷ.[5] Yn 1937 dyrchafwyd y dref yn ddinas, gyda Shlomo Stampfer, mab un o'i sefydlwyr, Yehoshua Stampfer, yn faer arni. Tyfu a gwerthu ffrwythau sitrws oedd prif ddiwydiant y dref ar ddechrau'r ganrif. Petach Ticfa heddiwMae'r ddinas bellach yn rhan o Tel Aviv Metropolitan. Mae'n ganolfan i rai o gwmnïau a sefydliadau'r wlad a rhai rhyngwladol gan gynnwwys: Oracle Corporation, IBM, Intel, Alcatel-Lucent, ECI Telecom, a GlaxoSmithKline Pharmaceuticals. Ceir hefyd bencadlys Tadiran Telecom ym ardal ddiwydiannol Ramat Siv. Mae Arutz Sheva, y rhwydwaith cyfryngau Israeli Seionyddol adain dde grefyddol, yn gweithredu stiwdio radio rhyngrwyd yn Petach Ticfa, lle mae gwasanaeth teledu rhyngrwyd Arutz Sheva yn ogystal â'r wasg argraffu ar gyfer ei bapur newydd B'Sheva wedi eu lleoli. Mae gan wasanaeth cudd Israel, Shin Bet, gyfleuster holi yn Petah Tikva.[6] Mae gan y ddinas ddau dîm pêl-droed, sef C.P.D. Petah Tikva a C.P.D. Maccabi Petah Tikva. Gefailldrefi
Oriel
Dolenni
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia