Pen yr Helgi Du
Mynydd yn y Carneddau yn Eryri yw Pen yr Helgi Du. LleoliadSaif Pen yr Helgi Du yn sir Conwy, ar y grib sy'n ymestyn tua'r de-ddwyrain oddi wrth brif grib y Carneddau, gan gychwyn ar ochr ddwyreiniol Carnedd Llywelyn ac arwain dros gopa Pen yr Helgi Du a gorffen gyda Pen Llithrig y Wrach uwchben Llyn Cowlyd. ![]() Caiff y copa ei wahanu oddi wrth Garnedd Llywelyn gan Fwlch Eryl Farchog, gyda chlogwyni Craig yr Ysfa islaw. I'r gorllewin o'r copa mae Ffynnon Llugwy, ac ar yr ochr ddwyreiniol mae Cwm Eigiau. I'r de-ddwyrain mae Bwlch y Tri Marchog yn ei wahanu oddi wrth gopa Pen Llithrig y Wrach. LlwybrauGellir ei ddringo trwy ddilyn y ffordd drol i Ffynnon Llugwy o'r briffordd A5 rhwng Gwern Gôf Isaf a Helyg, neu ar hyd y grib o Garnedd Llywelyn neu Ben Llithrig y Wrach. Gweler hefyd
Dolennau allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia