Paula Fox
Awdures Americanaidd oedd Paula Fox (22 Ebrill 1923 - 1 Mawrth 2017) sy'n cael ei chofio am ei gwaith fel cyfieithydd, nofelydd ac awdur plant. Am ei gwaith fel awdures llyfrau plant, derbyniodd Gwobr Hans Christian Andersen, 1978. Yn 1974 enillodd Wobr Newbery am ei nofel The Slave Dancer a dilynwyd hynny gan nifer o wobrwyon eraill. Aeth ei nofelau i oedolion allan o brint ym 1992. Yng nghanol y 1990au daeth bri ar ei gwaith unwaith yn rhagor, gan fod cenhedlaeth newydd o awduron Americanaidd yn hyrwyddo ei ffuglen i oedolion.[1] Magwraeth gan ei nainFe'i ganed yn Ninas Efrog Newydd ar 22 Ebrill 1923; bu farw yn Brooklyn. Daeth ei mam, Elsie De Sola, o Ciwba, ac roedd yn awdur sgriptiau; ysgrifennodd ei thad, Paul Hervey Fox, hefyd sgriptiau a dysgodd Saesneg. Ar ôl iddo ysgaru Elsie, cafodd 3 mab a merch gyda'i ail wraig, Mary. Gwrthododd Elsie De Sola Fox ei merch Paula ar awr yr enedigaeth, a gadawodd hi mewn cartref i blant amddifad. Ond ymwelodd ei mam-gu, mam Candelaria de Sola, yn ysbeidiol, pan oedd yn Ninas Efrog, ei hachub a chafodd ei symud o gwmpas Florida, Ciwba a'r Unol Daleithiau. Nid oedd yn gallu darparu cartref iddi'i hun, oherwydd ei thlodi, felly rhoddodd Candelaria y baban i'r Parchedig Elwood Corning a'i fam fregus yn Balmville, Efrog Newydd.[2][3][4][5][6] Priododd Martin Greenberg ac mae Linda Carroll yn blentyn iddi. Y llenorYmhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: The Slave Dancer. Mynychodd Fox Brifysgol Columbia a phriododd Richard Sigerson, i ddechrau, a chawsant ddau fab. Yn ddiweddarach priododd y beirniad llenyddol a'r cyfieithydd Martin Greenberg, a gweithiodd am flynyddoedd fel athrawes a thiwtor ar gyfer plant bregus. Dim ond yn ei 40au y sgwennodd ei nofel gyntaf, Poor George, stori am athro ysgol sinigaidd sy'n dod o hyd i bwrpas mewn bywyd wrth fentora person ifanc yn ei arddegau. AelodaethBu'n aelod o Academi Celfyddydau a Llythyrau America am rai blynyddoedd. Anrhydeddau
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia