Paul Dummett
Chwaraewr pêl-droed Cymreig yw Paul Dummett (ganed 26 Medi 1991). Mae'n chwarae i Newcastle United yn Uwchgynghrair Lloegr a thîm cenedlaethol Cymru. Gyrfa clwbDechreuodd Dummett ei yrfa gyda thîm ieuenctid Newcastle United[3] cyn ymuno â Gateshead o'r Gyngres Bêl-droed ar fenthyg ym mis Mawrth 2012[4][5]. Y tymor canlynol ymunodd â St. Mirren yn Uwch Gynghrair Yr Alban ar fenthyg[6][7] gan wneud ei ymddangosiad cyntaf i'r clwb mewn buddugoliaeth dros Heart of Midlothian ar 15 Medi 2012. Dychwelodd Dummett i Newcastle ar ddiwedd 2011-12 gan arwyddo cytundeb newydd â'r clwb[8] a sgoriodd ei gôl gyntaf i'r clwb mewn gêm gyfartal 2–2 yn erbyn Lerpwl ym mis Hydref 2013.[9] Gyrfa ryngwladolMae Dummett yn gymwys i chwarae dros Gymru oherwydd ei daid Cymreig[10]. Mae wedi ennill capiau i dîm dan 21 Cymru [7] a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i'r tîm cyntaf mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Yr Iseldiroedd ar 4 Mehefin 2014[11]. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia