Passport to Pimlico
Ffilm gomedi gan y cyfarwyddwr Henry Cornelius yw Passport to Pimlico a gyhoeddwyd yn 1950. Fe'i cynhyrchwyd yn y Deyrnas Gyfunol. Lleolwyd y stori yn Llundain. Sgwennwyd y sgript yn wreiddiol yn Saesneg a hynny gan T. E. B. Clarke a chyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Georges Auric. Dosbarthwyd y ffilm gan Ealing Studios a hynny drwy fideo ar alwad. Y prif actorion yn y ffilm hon yw Margaret Rutherford, Charles Hawtrey, Hermione Baddeley, Barbara Murray, Basil Radford, Naunton Wayne, Stanley Holloway, Michael Hordern, Michael Knight, James Hayter, Raymond Huntley, Sydney Tafler, John Slater, Paul Dupuis a Philip Stainton. Mae'r ffilm yn 84 munud o hyd a chafodd ei ffilmio mewn du a gwyn. [1][2] Cast
PlotMae credydau agoriadol y ffilm yn gorffen gyda'r geiriau "cyflwynedig er cof am", gyda delwedd o gwponau dogni bwyd a dillad Prydeinig o'r Ail Ryfel Byd.[4] Yn Llundain yn y cyfnod ychydig ar ôl yr Ail Ryfel Byd, mae bom oedd heb ei ffrwydro yn tanio yng Ngerddi Miramont, Pimlico. Mae’r ffrwydrad yn datgelu seler oedd wedi’i chladdu ers oesoedd. Mae'r seler yn cynnwys gwaith celf, darnau arian, gemwaith a llawysgrif hynafol. Mae’r ddogfen yn cael ei dilysu gan yr hanesydd yr Athro Hatton-Jones fel siarter frenhinol o ddyddiau Edward IV a ildiodd dŷ a’i ystâd i Siarl VII, Dug olaf Bwrgwyn , pan geisiodd loches yno ar ôl cael ei dybio’n farw ym Mrwydr Nancy ym 1477. Gan na chafodd y siarter ei dirymu, datganwyd bod ardal o Pimlico yn barhau i fod yn rhan gyfreithiol o Fwrgwyn. Gan nad oes gan lywodraeth Prydain awdurdod gyfreithiol dros yr ardal yn ôl telerau'r siarter hynafol, mae'n rhaid i drigolion yr ardal ffurfio cyngor, yn unol â chyfreithiau'r Ddugaeth darfodedig, er mwyn negodi telerau diddymu'r siarter. Mae cyfraith hynafol Bwrgwyn yn mynnu bod y dug ei hun i benodi 'r cyngor. Mae Sébastien de Charolais yn cyrraedd ac yn cyflwyno ei hawl i’r dugaeth. Mae ei hawl yn cael ei wirio a'i gadarnhau gan yr Athro Hatton-Jones. Mae'r Dug yn ffurfio'r corff llywodraethol, sy'n dechrau trafodaethau gyda llywodraeth Prydain. Mae'r cwestiwn o bwy bia'r trysorau gwerthfawr oedd yn y seler yn ddod yn asgwrn cynnen. Ar ôl iddi wawrio ar y trigolion nad yw rheolau dogni na chyfyngiadau biwrocrataidd eraill Prydain ôl rhyfel yn berthnasol i Pimlico Fyrgwyn, mae cannoedd o spivs y farchnad du yn symud i'r ardal. Mae'r awdurdodau lleol yn fethu ymdopi a'r broblem. Mewn ymateb, mae'r awdurdodau Prydeinig yn amgylchynu tiriogaeth Bwrgwyn gyda weiren bigog. Mae'r trigolion yn dial yn erbyn yr hyn a welant fel gweithred llawdrwm; trwy atal trên tanddaearol Llundain wrth iddo fynd trwy Fwrgwyn, gan ofyn am weld pasbortau pob teithiwr: mae’r rhai heb ddogfennau yn cael eu hatal rhag deithio trwy'r wladwriaeth. Mae llywodraeth Prydain yn dial trwy dorri'r trafodaethau ac ynysu Bwrgwyn. Gwahoddir y trigolion i "ymfudo" i Loegr, ond ychydig sy'n gadael. Mae cyflenwadau egni, dŵr a chyflenwadau bwyd yn cael eu hatal gan Brydain. Mae'r trigolion yn cael eu digalonni gan y problemau maent yn ei wynebu ac yn paratoi i ildio. Mae Llundeinwyr cydymdeimlom yn dechrau taflu parseli bwyd ar draws y rhwystr. Yn y cyfamser, mae llywodraeth Prydain yn dod o dan bwysau cyhoeddus i ddatrys y sefyllfa. Daw'n amlwg i'r diplomyddion Prydeinig a neilltuwyd i ddod o hyd i ateb, bod trechu'r Bwrgwyniaid trwy newyn yn anodd ac yn amhoblogaidd gyda phobl Prydain, felly maent yn penderfynu mynd ati eto i negodi. Oherwydd mae'r trysor a ddarganfuwyd yw brif asgwrn yn y gynnen mae'r gynnen yn cael ei orchfygu trwy i drysor Bwrgwyn cael ei fenthyg i Brydain. Mae'r cyfaddawd yn dderbyniol i'r ddwy ochr ac mae Bwrgwyn yn aduno â Phrydain. Mae'r aduno yn achosi i ddogni ar gyfer bwyd a dillad i ddychwelyd i'r ardal. CyfarwyddwrGanwyd y cyfarwyddwr ffilm Henry Cornelius ar 18 Awst 1913 yn Nhref y Penrhyn a bu farw yn Llundain ar 8 Tachwedd 1997. Roedd yn fwyaf cynhyrchiol yn 1936 ond ni ellir dweud fod y gwaith wedi cyrraedd enwogrwydd byd-eang. DerbyniadRhoddwyd y marciau canlynol mewn adolygiadau o'r ffilm:
Gweler hefydCyhoeddodd Henry Cornelius nifer o ffilmiau gan gynnwys y canlynol: Rhestr Wicidata:
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia