Parc Goodison
Stadiwm bêl-droed yn ninas Lerpwl, Lloegr yw Parc Goodison. Ers ei agor yn 1892 mae'n gartref i'r tim glas, Everton ac yn dal 39,572 o wylwyr.[1] Mae'n stadiwm petryal dyda phob ochr yn ffurfio 'stand', sef eisteddle: y mwyaf, a'r cyntaf i'w godi yw stand Goodison Road, yr ail yw'r stand Park End, a cheir hefyd stand Ffordd Gwladys a stand Bullens Road, lle mae cefnogwyr y tîm y gwrthwynebwyr yn eistedd. Cynhaliwyd yn Stadiwm Parc Goodison rhai o gemau Cwpan y Byd 1966, lle perfformiodd chwaraewyr fel Pelé ac Eusebio i dimau fel Brasil a Phortiwgal. HanesYn wreiddiol, chwaraeodd Everton ar gae agored yng nghornel de-ddwyreiniol cae Parc Stanley (ar safle lle bu cystadleuwyr C.P.D. Lerpwl yn ei ystyried dros ganrif yn ddiweddarach). Roedd y gêm swyddogol gyntaf ar ôl cael ei ailenwi'n "Everton o St. Domingo's" ym Mharc Stanley, ar 20 Rhagfyr 1879 gyda thîm o'r enw San Peter's yn eu herbyn, ac roedd y mynediad am ddim. Ym 1882, rhoddodd dyn o'r enw J. Cruit dir yn Ffordd y Priordy (Priory Road) gyda'r cyfleusterau angenrheidiol ar gyfer clybiau proffesiynol, ond gofynnodd i'r clwb adael ei dir ar ôl dwy flynedd oherwydd bod y torfeydd yn mynd yn rhy fawr a swnllyd. Symudodd Everton i Anfield Road gerllaw, a chodwyd to dros y mannau gwylio. Chwaraeodd Everton ar faes Anfield o 1884 tan 1892.[2] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia