Pa gur yv y porthaur![]() Cerdd yn Llyfr Du Caerfyrddin yw Pa gur yv y porthaur(Pa Gwr yw y Porthawr fel trawslythreniad, a Pa ŵr yw'r porthor? mewn Cymraeg modern). Credir fod y gerdd yn dyddio o tua'r 10g, ac mae'n ffynhonnell bwysig ar gyfer astudiaeth o Arthur. Nid oes teitl fel y cyfryw ar y gerdd; daw'r enw arni o'r llinell gyntaf. Dechreua'r gerdd gyda'r cwestiwn yma, yna ateba'r porthor mai Glewlwyd Gafaelfawr ydyw. Hola yntau yn ei dro pwy sy'n gofyn, a chaiff ar ateb mai Arthur a Cei sydd yno. Ymddengys eu bod yn dymuno cael mynediad i gaer sy'n cael ei chadw gan Glewlwyd. Hola Glewlwyd pwy sydd gyda hwy, ac aiff Arthur ymlaen i ganmol gwrhydri ei wŷr, yn enwedig Cei a Bedwyr. Ymhlith gorchestion Cei, dywedir iddo ladd cath enfawr, Cath Palug. Dywedir i Bedwyr ladd cannoedd ym mrwydr Tryfrwyd. Ymhlith eraill, enwir Manawydan fab Llŷr a Mabon fab Modron; dywedir bod Mabon yn was i Uthr Bendragon. Llyfryddiaeth
|
Portal di Ensiklopedia Dunia