Owen Thomas (cofiannydd)
Llenor Cymraeg a phregethwr oedd Owen Thomas (16 Rhagfyr 1812 – 2 Awst 1891), a gofir yn bennaf fel cofiannydd John Jones, Talysarn. Roedd yn frawd i'r pregethwr a llenor John Thomas, awdur nofel Gymraeg gynnar.[1] BywgraffiadGaned Owen Thomas yng Nghaergybi, Ynys Môn, yn 1812. Dechreuodd ar ei yrfa yn gweithio fel saer-maen yn lleol. Yn 1834 dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ar adeg pan oedd John Elias yn dal yn ddylanwadol iawn ym Môn a gweddill gogledd Cymru. Ar ôl derbyn addysg yng Ngholeg Diwinyddol y Bala ac ym Mhrifysgol Caeredin daeth yn un o bregethwyr amlycaf ei ddydd a hynny mewn cyfnod pan oedd pregethwyr Cymraeg yn ffigyrau mawr yn y gymdeithas.[1] LlenyddiaethDiolch i gefnogaeth Dr Lewis Edwards o'r Bala, daeth yn gyd-olygydd Y Traethodydd a chyfrannodd sawl erthygl i'r cylchgrawn hwnnw. Fe'i cofir yn bennaf fel cofiannydd, yn enwedig am ei waith mwyaf, sef Cofiant John Jones, Talysarn a gyhoeddwyd yn 1874. Ysgrifennodd hefyd gofiant i Henry Rees.[1] LlyfryddiaethGwaith Owen Thomas
Astudiaethau
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia