Otto Neurath
Athronydd a chymdeithasegydd o Awstria oedd Otto Neurath (10 Rhagfyr 1882 – 22 Rhagfyr 1945).[1] Dadleuodd dros "Undod y Gwyddorau" a chymwyso athroniaeth er budd gwyddoniaeth. Defnyddiodd positifiaeth resymegol i lunio sail i ddamcaniaeth economaidd ymddygiadol. Cafodd ei addysg yn Fienna a Berlin. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf bu'n rhan o weriniaeth gomiwnyddol Bafaria, a chafodd ei garcharu am hynny. Dychwelodd i Fienna i ymgyrchu dros ddiwygiadau Marcsaidd, ac yno bu'n rhan o Gylch Fienna. Fe drefnodd cynadleddau rhyngwladol mewn ymdrech i hybu'r cyfathrebu rhwng disgyblaethau'r gwyddorau, a golygodd y gwyddoniadur International Encyclopedia of Unified Science (1937). Symudodd i'r Iseldiroedd ym 1934, ac i Loegr ym 1941 i ffoi o'r Natsïaid. Ysgrifennodd Neurath ar amryw bynciau, gan gynnwys systemau dosbarthu, cymdeithaseg gymharol, ac economeg. Bywyd cynnarGanwyd yn Fienna yn fab i'r economegydd Iddewig Wilhelm Neurath a'i wraig Gertrud Kaempffert. Cafodd Otto ei fagu'n Gatholig.[2] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia