Omar Sharif
Actor a chwaraewr cardiau o'r Aifft yw Omar Sharif (Arabeg: عمر الشريف (ganwyd Michel Demitri Shalhoub; 10 Ebrill 1932 – 10 Gorffennaf 2015[1]). Ystyr y cyfenw a fabwusiadodd yw "uchelwr" yn Arabeg. Ymhlith ei ffilmiau enwocaf y mae: Lawrence of Arabia (1962), Doctor Zhivago (1965) a Funny Girl (1968). Cafodd ei enwebu am Wobr yr Academi a 3 Golden Globe Award a Gwobr César. Cafodd ei eni yn Alexandria, yr Aifft, yn fab i Joseph Chalhoub a'i wraig Claire Saada a oedd yn prynu a gwerthu coed. Derbyniodd Sharif ei addysg yng Ngholeg Victoria, Alexandira cyn ymuno gyda Phrifysgol Cairo lle'r astudiodd mathemateg a ffiseg. Priododd yr actores Faten Hamama ym 1955, gan droi'n Fwslim a chawsont un plentyn: Tarek Sharif a anwyd yn 1957. Yn 1974 chwalwyd y briodas ac ni phriododd eildro.[2] A thros y blynyddoedd disgynodd dros ei ben a'i glustiau gyda nifer o actoresau enwog gan gynnwys Ingrid Bergman, Catherine Deneuve ac Ava Gardner.[3] Yn y 1950 serennodd mewn ffilmiau Arabeg yn ei wlad ei hun, a daeth yn boblogaidd dros nos. BridgeO'r 1960 hyd ddiwedd y 1980au daeth yn enwog am ei hoffter o'r gêm gardiau Bridge a bu ganddo golofn ym mhapur newydd y Chicago Tribune. Sgwennodd hefyd nifer o lyfrau ar y pwnc a thrwyddedodd ei enw i gêm gyfrifiadurol yn ymwneud â bridge, sef "Omar Sharif Bridge", sydd wedi bod ar werth ers 1992. Y diweddOnd meistr arno oedd y ddiod gadarn a gamblo, a threuliodd lawer o nosweithiau'n yfed a gamblo. Yn 2015 datgelwyd ei fod yn dioddef o Clefyd Alzheimer’s.[4] Bu farw o drawiad ar y galon mewn ysbyty yng Nghairo yn 83 mlwydd oed. Ffilmiau
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia