Omar Khayyam
Mathemategydd, seryddwr, athronydd a bardd oedd Omar Khayyām (Persieg: عمر خیام / Omar-e Khayyām) (18 Mai 1048 – 4 Rhagfyr 1131), a anwyd yn Nishapur, Persia. Mae Omar Khayyām yn fwyaf abnabyddus yn y Gorllewin am ei gasgliad o gerddi, Rubaiyat Omar Khayyām, ond yn ei wlad enedigol fe'i cofir yn bennaf am ei waith gwyddonol ac athronyddol. Fel ei gyfoeswr agos y bardd Faruddin Attar, Sŵffi oedd Omar Khayyam ac mae olion athroniaeth gyfrinol y Sŵffiaid i'w gweld yn glir yn ei farddoniaeth. Cyfieithiad Edward FitzGerald o'r RubaiyatAralleiriad neu addasiad yw'r fersiwn o'r Rubaiyat a gyhoeddwyd gan Edward FitzGerald (1809-1883) yn 1859. Mae wedi rhedeg i nifer o argraffiadau ers hynny, rhai ohonyn' nhw yn llyfrau cain gyda darluniau gan arlunwyr fel Gilbert James. Roedd Rubaiyat FitzGerald yn arbennig o boblogaidd ar droad yr 20g. Cyfieithiadau Cymraeg o'r RubaiyatCyfieithiwyd casgliad o waith Omar Khayyām (Penillion Omar Khayyam) o'r Bersieg gwreiddiol i'r Gymraeg gan Syr John Morris-Jones ym 1928. Serch hynny mae dylanwad cyfieithiad Saesneg FitzGerald yn amlwg ynddo. Dyma bennill ohono:
Yn 1939 cyhoeddodd Thomas Ifor Rees (1890–1977) ei drosiad ei hun o fersiwn Saesneg Edward FitzGerald o'r Rubaiyat yn Ninas Mecsico, gyda lluniau gan yr arlunydd Robert Hesketh. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia