Olaf Scholz
Gwleidydd o'r Almaen yw Olaf Scholz (ganed 14 Mehefin 1958) sydd yn gwasanaethu yn swydd Canghellor yr Almaen ers 8 Rhagfyr 2021. Mae'n aelod o Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol yr Almaen (SPD). Ganed ef yn Osnabrück yn nhalaith Niedersachsen, yng Ngorllewin yr Almaen, a chafodd ei fagu yn Hamburg. Ymunodd â'r SPD ym 1975, pan oedd yn yr ysgol, a byddai'n weithgar mewn gwleidyddiaeth yn ei ieuenctid. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Hamburg o 1978, a derbyniodd ei ddoethuriaeth yn y gyfraith yno ym 1984. Gwasanaethodd yn is-gadeirydd Jusos—mudiad ieuenctid yr SPD—o 1982 i 1988.[1] Gweithiodd yn gyfreithiwr, gan arbenigo mewn cyfraith lafur a chyflogaeth. Etholwyd Scholz i'r Bundestag yn gyntaf ym 1998, yn aelod o'r SPD dros etholaeth Hamburg Altona, a bu yn y sedd honno nes 2011. Yn y cyfnod hwnnw, gwasanaethodd yn ysgrifennydd cyffredinol yr SPD o 2002 i 2004, yn ystod canghelloriaeth Gerhard Schröder, ac yn weinidog ffederal dros lafur a materion cymdeithasol, yng nghabinet cyntaf Angela Merkel, o 2007 i 2009. Ymddiswyddodd Scholz o'r Bundestag wedi iddo gael ei ethol yn Brif Faer Hamburg ym Mawrth 2011. Gwasanaethodd yn y swydd honno am ddau dymor, hyd at 2018. Ar 14 Mawrth 2018, un diwrnod wedi iddo ildio swydd Maer Hamburg, penodwyd Scholz yn Is-Ganghellor yr Almaen ac yn weinidog ariannol ffederal ym mhedwaredd lywodraeth Angela Merkel. Yn 2020 fe'i enwebwyd yn ymgeisydd yr SPD i olynu Merkel yn ganghellor yn yr etholiad ffederal i'w chynnal ym Medi 2021. Yn sgil ennill y nifer fwyaf o seddi seneddol gan un blaid—dychwelodd Scholz ei hun at y Bundestag fel aelod dros Potsdam a'r cylch—ffurfiodd yr SPD lywodraeth glymblaid â'r Gwyrddion a'r Blaid Ddemocrataidd Rydd, ac ar 8 Rhagfyr 2021 etholwyd Scholz yn Ganghellor yr Almaen gan yr 20fed Bundestag a phenodwyd ei gabinet i lywodraethu gan yr Arlywydd Frank-Walter Steinmeier.[2] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia