Official Monster Raving Loony Party
Mae Plaid Swyddogol yr Ynfydion Cynddeiriog Angenfilaidd neu Plaid Swyddogol Angenfilaidd yr Ynfydion Cynddeiriog (The Official Monster Raving Loony Party yn Saesneg) yn blaid wleidyddol gofrestredig yn y Deyrnas Unedig [3] a sefydlwyd yn 1963 gan y cerddor David Sutch (1940-1999), sy'n fwy adnabyddus fel "Screaming Lord Sutch ". Defnyddiwyd yr enw "Raving Loony" am y tro cyntaf yn 1983, yn is-etholiad Bermondsey. Mae'r blaid yn nodedig am ei pholisïau abswrd.[4] Er gwaethaf ei natur ddychanol, mae rhai o'r polisïau sydd wedi ymddangos ym maniffesto'r blaid wedi dod yn gyfraith, megis yr hawl i bleidleisio yn 18 oed, "pasports ar gyfer anifeiliaid anwes", a thafarndai ar agor drwy'r dydd. Yn 1963 yr oed i bleidleisio oedd 21. Hyd at 2015 roedd dau o'u cynghorwyr wedi bod yn feiri: Alan Hope yn Ashburton, Dyfnaint a Chris Driver o Ynys Sheppey, Caint. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia