Oblast Kursk
Un o oblastau Rwsia yw Oblast Kursk (Rwseg: Ку́рская о́бласть, Kurskaya oblast). Ei chanolfan weinyddol yw dinas Kursk. Poblogaeth: 1,060,892 (2024). ![]() Lleolir yr oblast yn ardal weinyddol y Dosbarth Ffederal Canol. Fe'i sefydlwyd yn 1934 yn yr Undeb Sofietaidd. Mae Oblast Kursk yn rhannu ffin ag Oblast Bryansk i'r gogledd-orllewin, Oblast Oryol i'r gogledd, Oblast Lipetsk i'r gogledd-ddwyrain, Oblast Voronezh i'r dwyrain, ac Oblast Belgorod i'r de a'r ffin rhwng Rwsia ac Wcráin. Llifa Afon Dnieper ac Afon Don drwy'r oblast. Ar 8 Awst 2024, wedi dros ddwy flynedd o ymladd ar Wcráin, torrodd byddin Wcráin i diroedd Rwsia mewn ymosodiad cwbwl annisgwyl. HanesMae tiriogaeth Oblast Kursk wedi'i phoblogi ers diwedd yr oes iâ ddiwethaf. Roedd llwythau Slafaidd o'r Severiaid yn byw yn yr ardal. O 830 ymlaen roedd yr ardal bresennol yn rhan o daleithiau Rus' Khaganate a Kievan Rus. Y trefi hynaf yn y rhanbarth yw Kursk a Rylsk, a grybwyllwyd gyntaf yn 1032 a 1152, yn y drefn honno: dwy brifddinas dugiaethau canoloesol bychan.[1][2] respectively, both capitals of small medieval eponymous duchies.[1] Yn y 13g, gorchfygwyd y rhanbarth gan Ymerodraeth y Mongol. Yn niriogaeth Kursk Oblast y ganwyd 4ydd arweinydd yr Undeb Sofietaidd, Nikita Khrushchev. O 2024 ymlaen, piblinell Urengoy-Pomary-Uzhhorod yn Sudzha oedd y lle olaf i nwy naturiol lifo trwyddo o Rwsia i Ewrop trwy Wcráin.[3] Ym 1918, roedd dinasoedd Rylsk a Sudzha yn rhan orllewinol yr Oblast Kursk bresennol yn rhan o dalaith Wcráin.[1] Llofnodwyd cadoediad rhwng Gwladwriaeth Wcráin, yr Almaen a Rwsia Sofietaidd yn Korenevo ym Mai 1918. Kursk oedd man sefydlu Llywodraeth Dros Dro'r Gweithwyr a Gwerinwyr Wcráin, a Sudzha oedd ei sedd gyntaf yn Nhachwedd-Rhagfyr 1918.[4] Arhosodd Sudzha yn rhan o'r Wcráin Sofietaidd (Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Wcráin) tan 1922.[5] Yr Ail Ryfel BydYmladdwyd un o frwydrau mawr yr Ail Ryfel Byd ar dir yr oblast, sef Brwydr Kursk (5 Gorffennaf i 23 Awst, 1943). Dyma safle bwrydrau Wcrain a'r Almaen yn erbyn Rwsia. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, meddiannwyd tiriogaeth Oblast Kursk gan filwyr yr Almaen o hydref 1941 hyd haf 1943. Digwyddodd Brwydr Kursk, a oedd yn un o frwydrau mwyaf yr Ail Ryfel Byd, yn y rhanbarth hon rhwng 5 Gorffennaf 1943 a 23 Awst 1943. Rhyfel Rwsia ac WcráinAr 8 Awst 2024, wedi dros ddwy flynedd o ymladd ar Wcráin, torrodd byddin Wcráin i diroedd Rwsia mewn ymosodiad cwbwl annisgwyl. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, meddiannwyd tiriogaeth Oblast Kursk gan filwyr yr Almaen o hydref 1941 hyd haf 1943. Digwyddodd Brwydr Kursk, a oedd yn un o frwydrau mwyaf yr Ail Ryfel Byd, yn y rhanbarth hon rhwng 5 Gorffennaf 1943 a 23 Awst 1943. Gweler hefyd
Dolenni allanol
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia