Noson Guto Ffowc
![]() Dethlir Noson Guto Ffowc neu Noson Tân Gwyllt ledled Prydain ar y 5 Tachwedd bob blwyddyn. Ar y dyddiad hwn yn 1605 y ceisiodd cynllwynwyr Catholig, gan gynnwys Guto Ffowc, ddinistrio Palas San Steffan â ffrwydron. Roedd Guto'n aelod o grŵp a'u bwriad ar ladd y Brenin Iago'r 1af, ond methodd eu hymdrech pan daliwyd Guto tra roedd yn gwarchod y powdwr gwn yn seleri Tŷ'r Arglwyddi. Er mwyn dathlu'r ffaith fod y brenin yn dal i fyw taniwyd coelcerthi ledled Llundain, yn unol â thraddodiad yr oes. ![]() ![]() Mae'r arferiad o wneud "Gei", sef model o Guto Ffowc ei hun yn tarddu'n ôl i ddiwedd y 18g pan oedd plant tlawd yn gwneud arian poced drwy ddilorni'r model (pabyddol) hwn, ac o dipyn i beth daeth y 5ed o Dachwedd yn ganolbwynt i'r gweithgaredd. Collwyd yr arferion a'r casineb gwrth-babyddol erbyn cychwyn y 20g a thrôdd y weithgaredd yn un cymdeithasol. Ceir cofnodion o 1607 o goelcerthi cyhoeddus yn cael eu cynnau yng Nghaerliwelydd, Norwich a Nottingham, gyda cherddoriaeth y ffrwydro cannons yn rhan o'r dathliadau. Yn Dorchester, a oedd yn dref Protestanaidd, darllenwyd pregeth, cynheuwyd coelcerthi a chanwyd y clychau.[1] Codir coelcerthi a llosgir tân gwyllt gyda'r nos drwy wledydd Prydain, yn al mewn gerddi tai preifat neu mewn safleoedd cyhoeddus. Mae mwy a mwy o bobl eisiau cyfyngu'r arfer hwn, gan fod nifer yn cael eu hanafu. Bydd plant a bobl ifainc yn aml yn camddefnyddio'r tân gwyllt a'u taflu at bobl a hyd yn oed yn eu gwthio drwy flwch llythyron tai. Coelcerthi G’langaea a Guto Ffowc
Ond roedd coelcerthi i'w gweld o hyd ar noson Calan Gaeaf yng nghyfnod William Bulkeley:
Difyr gweld bod yr hen arfer o gynneu coelcerthi ar noswyl G’lan Gaea yn dal ei dir yma yn Llanfechell yn 1736, neu bod yr hen arfer wedi dod yn ei ôl. Cofier mai ar y 5ed Tachwedd 1605 y daliwyd Guto a chafodd ei boenydio’n ddidugaredd cyn ei ddienyddio drwy ei grogi a’i dynnu’n ddarnau yn Ionawr 1606 – ddim ei losgi ar Dachwedd y 5ed fel mae rhai yn meddwl. Yn glyfar iawn o ran Llywodraeth y cyfnod roedd symud y coelcerthi i Dachwedd y 5ed yn cyflawni dau bwrpas: 1) Roedd yn slap ar wyneb arferion paganaidd G’lan Gaea gyda’r un llaw, 2) ac yn slap gyda’r llaw arall ar wyneb y Pabyddion drwy ddathlu ‘achubiaeth’ y deyrnas brotestanaidd oherwydd methiant y ‘Cynllwyn Powdwr Gwn’ yr oedd Guto Ffowc a Phabyddion eraill yn rhan ohono. Dan yr amgylchiadau, mi newidiodd llawer o bobl eu coelcerthi i Dachwedd y 5ed – peth peryg iawn oedd peidio, ar boen cael eich cyhuddo o fod un ai yn bagan neu yn Babydd – mi fyddai gwrachod yn ogystal â Phabyddion yn cael eu llosgi yn y dyddiau duon a pheryglus hynny[4] Yn ôl Wikipedia, mae'r Gwyddelod yn cael coelcerthi ar 31ain Hydref. Ac roedd coelcerthi i’w gweld ar noson G'lanmai hefyd hanner canrif ar ôl cofnod William Bulkeley:
Felly, yn ôl y cofnod hwn roedd yna reswm arall i gynnal coelcerthi ar noson G’langaea – ond beth oedd y fuddugoliaeth dros y Saeson oedd gan Foneddiges Llangollen dan sylw? Dyma ymateb un sydd wedi astudio hanes a sy'n dod o'r ardal:
Y tu hwnt i wledydd PrydainLledaenodd noson Guto Ffowc i diriogaethau tramor y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Gogledd America ble'i gelwid yn "Ddiwrnod y Pâb" ond ni pharhaodd y traddodiad yno'n hir. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia