Niki Lauda
Gŵr busnes a gyrrwr rasio Fformiwla Un o Awstria oedd Andreas Nikolaus "Niki" Lauda (22 Chwefror 1949 – 20 Mai 2019). Enillodd bencampwriaeth y byd dair gwaith, yn 1975, 1977 a 1984. GyrfaGaned ef yn Fienna i deulu cefnog oedd yn hanu o Galicia. Daeth yn yrrwr Fformiwla 2 i dîm March yn 1971, ac yn yrrwr Fformiwla Un yn fuan wedyn. Ymunodd â thîm Ferrari yn 1974; enillodd ei ras Fformiwla Un gyntaf, Grand Prix Sbaen, yr un flwyddyn. Yn ystod Grand Prix yr Almaen, 1976, cafodd ddamwain ddifrifol iawn. Aeth ei gar ar dân, a methodd Lauda ddod allan ohono. Llosgwyd ef mor ddifrifol nes i offeiriad roi'r sacrament olaf iddo, ond roedd yn rasio eto ymhen chwech wythnos. Enillodd ei fuddugoliaeth gyntaf ar ôl dychwelyd yn Grand Prix De Affrica 1977, y ras lle lladdwyd y Cymro Tom Pryce. Wedi ymddeol fel gyrrwr, dechreuodd gwmni awyrennau Lauda Air. Cyfeiriadau |
Portal di Ensiklopedia Dunia