Nero Claudius Drusus
Cadfridog Rhufeinig oedd Nero Claudius Drusus Germanicus, ganed Decimus Claudius Drusus ac a elwir fel rheol yn Drusus, neu Drusus yr Hynaf (14 Ionawr 38 CC - 9 CC). Ef oedd mab ieuengaf Livia, yn ddiweddarach yn wraig yr ymerawdwr Augustus, a'i gŵr cyntaf, Tiberius Claudius Nero. Ganed ef ychydig cyn i Livia ysgaru Tiberius Claudius Nero er mwyn priodi Augustus. Magwyd ef yn nhŷ Claudius Nero gyda'i frawd Tiberius, a ddaeth yn ymerawdwr yn ddiweddarach. Priododd Antonia Minor, merch Marcus Antonius a chwaer Augustus, Octavia Minor. Roedd y briodas yn un nodedig o glos, ac wedi marw Drusus bu Antonia yn weddw am bron hanner canrif hen ail-briodi. Cawsant bump o blant; bu dau farw yn ieuanc. Y tri arall oedd Germanicus, Livilla a Claudius, a ddaeth yn ymerawdwr. Bu'n ymladd yn yr Alpau, cyn cael ei benodi'n llywodraethwr Gâl yn 13 CC. Pan ymosododd llwyth Almaenig ar ei dalaith, gwrth-ymosododd Drusus tu hwnt i Afon Rhein, gan orfodi'r Ffrisiaid i dalu teyrnged flynyddol. Parhaodd i ymgyrchu yn yr Almaen dros y blynyddoedd nesaf, gan ennill buddugoliaethau dros y Chatti a'r Sicambri. Bu farw yn 9 CC o ganlyniad i ddisgyn oddi ar ei geffyl, er iddo fyw am fis ar ôl y ddamwain. Ysgrifennodd yr ymerawdwr Augustus fywgraffiad iddo, ond nid yw wedi goroesi. |
Portal di Ensiklopedia Dunia