Natalie Powell
Jiwdoka o Gymru yw Natalie Powell (ganwyd 16 Hydref 1990). Cafodd ei geni ym Merthyr Tudful[1] a chafodd ei magu yn Llanfair-ym-Muallt, Powys[2]. GyrfaDechreuodd Powell ei gyrfa Jiwdo gyda Chlwb Jiwdo Irfon yn Llanfair-ym-Muallt pan yn wyth mlwydd oed[3] ac yn ogystal â Jiwdo, roedd yn aelod o dîm pêl-rwyd Cymru ond penderfynodd ganolbwyntio ar Jiwdo yn llawn amser yn 2012[2]. Llwyddodd i ennill Pencampwriaeth Ynysoedd Prydain dan 78 kg yn 2012, 2013 a 2014[4] ac yng Ngemau'r Gymanwlad 2014 yn Glasgow, Yr Alban llwyddodd i ddod y Gymraes cyntaf i ennill medal aur Jiwdo wrth ennill y categori dan 78 kg[5]. Ym mis Ebrill 2016 llwyddodd Powell i guro Gemma Gibbons er mwyn sicrhau medal efydd ym Mhencampwriaethau Jiwdo Ewrop yn Kazan, Rwsia[6] a llwyddodd i sicrhau ei lle yn nhîm Prydain Fawr ar gyfer Gemau Olympaidd 2016 yn Rio de Janeiro, Brasil gyda medal efydd ym Mhencampwriaethau Meistri'r Byd yn Guadalajara, Mecsico ym mis Mai 2016[7]. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia