Mynydd Fuji
Mynydd Ffwji neu Fujiyama yw mynydd uchaf Siapan. Saif ar ynys Honshū, ar y ffin rhwng taleithiau Shizuoka a Yamanashi, ychydig i'r gorllewin o Tokyo. Gellir ei weld o Tokyo ar ddiwrnod clir. Y dinasoedd agosaf ato yw Gotemba yn y dwyrain, Fuji-Yoshida yn y gogledd a Fujinomiya yn y de-orllewin. Ysytrir Mynydd Ffwji yn fynydd sanctaidd, ac mae'n symbol o Siapan trwy'r byd. Mae'n llosgfynydd, er nad yw wedi dangos unrhyw arwydd o fywyd ers ffrwydrad bach yn 1707. Dywedir iddo gael ei ddringo am y tro cyntaf gan fynach dienw yn 663. Hyd ddiwedd y cyfnod Meiji yn y 19g, gwaharddwyd merched rhag ei ddringo. Erbyn hyn mae tua 200,000 yn ei ddringo bob blwyddyn. Mae wedi bod yn destun poblogaidd i arlunwyr Siapan ers canrifoedd; y mwyaf enwog o'r gweithiau hyn yw 36 Golygfa ar Fynydd Ffwji gan Hokusai. Gweler hefyd |
Portal di Ensiklopedia Dunia