Mudiadau ac ideolegau ffeministaiddMae mathau gwahanol o fudiadau ac ideolegau ffeministaidd wedi datblygu ar draws y blynyddoedd. Maent yn amrywio o ran amcanion, strategaethau a chysylltiadau. Yn fwy nag aml maent yn gorgyffwrdd, ac mae sawl ffeminydd yn uniaethau ag adrannau gwahanol o ffeministiaeth. Ffeministiaeth y brif ffrwd![]() Fel enw cyffredinol, mae ffeministiaeth y brif ffrwd yn dynodi mudiadau ac ideolegau ffeministaidd sydd ddim yn rhan o ffeministiaeth sosialaidd neu radicalaidd. Yn draddodiadol mae ffeministiaeth y brif ffrwd yn canolbwyntio ar ddiwygio cyfreithiol a gwleidyddiol, gyda'i wreiddiau yn nhon gyntaf ffeministiaeth a ffeministiaidd hanesyddol rhyddfrydol y 19g a dechrau'r 20g. AnarchoffeministiaethMae anarchoffeministiaeth yn cyfuno anarchiaeth a ffeministiaeth. Yn gyffredinol mae'n gweld y batriarchaeth fel arwydd o hierarchaeth anwirfoddol. Ys dywed L. Susan Brown: "as anarchism is a political philosophy that opposes all relationships of power, it is inherently feminist".[1][2][3] ![]() Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia