Moronobu
![]() Arlunydd Siapaneaidd oedd Hishikawa Moronobu (Siapaneg: 菱川師宣, Hishikawa Moronobu) (1618 – 25 Gorffennaf 1694) a adnabyddir fel un o arloeswyr y mudiad celf ukiyo-e yn y 1670au, yn enwedig am ei ddefnydd o brintiau bloc pren. Cydnabyddir hefyd fod Moronobu yn arlunydd shunga (darluniau erotig) blaengar. Brodor o ardal Hoda ar Fae Edo oedd Moronobu (sylwer mai 'Hishikawa' yw'r enw teuluol, nid 'Moronobu'). Symudodd i Edo ei hun ac astudiodd dan artist a adnabyddir fel y Meistr Kambun. Cynhyrchodd Moronobu luniau o sawl math, ond fe'i cofir yn bennaf fel sefydlydd pwysicaf yr arddull ukiyo-e. Ond yn wahanol i artistiaid ukiyo-e diweddarach, mae'r cyfan o waith Moronobu yn ddarluniau inc du a gwyn sy'n amlygu sensitifrwydd arbennig a phurdeb ffurf. Mae ei waith yn cynnwys sawl enghraifft o luniau erotig - abuna-e (printiadau risqué) - sydd a rhan bwysig yn hanes yr arddull shunga ond sydd, gydag ambell eithriad, yn llai agored rywiol ac ecsblisit na'r gweithiau shunga diweddarach. Gweler hefyd |
Portal di Ensiklopedia Dunia