Mogadishu
Prifddinas a dinas fwyaf Somalia yw Mogadishu (Somaleg: Muqdisho). Saif yn nhalaith Banaadir, ar lan Môr Arabia. Yn 1990, amcangyfrifwyd gan y Cenhedloedd Unedig fod y boblogaeth yn 1,200,000, tra mae eraill wedi amcangyfrif rhwng 2 a 3 miliwn. Y,hlith adeiladau hanesyddol Mogadishu mae mosg Fakr ad-Din (1269) a Phalas Garesa, o ddiwedd y 19g. Ceir prifysgol genedlaethol Somalia yn y ddinas, a'i maes awyr mwyaf. Ar 18 Hydref 1977, bu'r maes awyr yn y newyddion pan achubwyd 82 o deithwyr o awyren Lufthansa gan unedau arbennig o heddlu'r Almaen, wedi i'r awyren gael ei chipio a'i gorfodi i lanio ym Mogadishu. Yn 2006 dechreuodd Rhyfel Somalia, a chipiwyd Mogadishu gan luoedd arfog Ethiopia. Ystyrir y ddinas yn un o'r dinasoedd peryclaf yn y byd. Pobl enwog o Mogadishu
|
Portal di Ensiklopedia Dunia