Meugan
Credir fod Meugan (hefyd Mawgan; Lladin: Maucannus) yn ŵr Cristnogol a oedd yn byw rywdro rhwng y 6ed a'r 7g. Cyfeiriodd Iolo Morganwg at Meugan ap Goronw a astudiodd gyda Beuno yng Nghlynnog Fawr. Yn ôl eraill roedd yn ddisgybl i Sant Briog.[1] Dywedir a'i fod fel Cristoffer yn nawddsant teithwyr.[2] Mae ei ddydd Gŵyl ar 24 Ebrill a 25 Medi.[3] Credir iddo fod yn bennaeth ar gymuned Cristnogol, ond ni wyddys ym mhle mae hwnnw: Mae ei eglwysi'n cynnwys Eglwys Sant Meugan, Llanrhudd, sef mam-eglwys tref Rhuthun, Sir Ddinbych, a Chapel Meugan a chwalwyd er mwyn codi Castell Biwmares ar y safle.[4] Ger ffermdy Pistyll Meugan ger Cemais bu capel a dinistrwyd yn 1592 dan orchymyn awdurdodau eglwysig i atal pererindota ofergoelus a llenwyd y ffynnon i rhwystro'r werin rhag gwneud offrymau yno. Ni wyddom yn union pa bryd y trigodd, dywed Sieffre o Fynwy ei fod yn gyfoeswr i Fyrddin a Gwrtheyrn, ac iddo fod yn Esgob ar 'Fudi' (o bosibl Woodchester heddiw) ond mae'n ymddangos fod sant arall oedd yn cael ei chyfeirio ato. Rhestr Wicidata:
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia