Merthyron Tolpuddle
Chwech o weithwyr amaethyddol o bentref Tolpuddle, Dorset, De-orllewin Lloegr, oedd Merthyron Tolpuddle. Yn 1834 cawsant eu heuogfarnu am dyngu llw cyfrinachol fel aelodau o Gymdeithas Cyfeillion Llafurwyr Amaethyddol. Cawsant eu harestio ar gyhuddiad o dan y Ddeddf Llwon Anghyfreithlon yn ystod yr anghydfod dros dorri cyflogau cyn cael eu heuogfarnu yn yr achos 'R v Loveless ac Eraill' a'u dedfrydu i'w halltudio i Awstralia[1][2]. Cawsant bardwn yn 1836 wedi protestiadau torfol o'u plaid a chefnogaeth gan yr Arglwydd John Russell ac aethant yn ôl i Loegr rhwng 1837 ac 1839. Daeth Merthyron Tolpuddle yn achos poblogaidd cynnar dros hawliau undebol a'r mudiad hawliau gweithwyr. Digwyddiadau hanesyddolCefndirYn 1799 ac 1800, roedd Deddfau Cyfuno Prydain yn gwahardd 'cyfuno' neu drefnu i ennill amodau gwaith gwell, wedi ei phasio gan y Senedd oherwydd ofn gwleidyddol yn dilyn Chwyldro Ffrainc. Yn 1824, diddymwyd y Deddfau hyn gan eu bod yn amhoblogaidd a phasiwyd Ddeddf Cyfuno Gweithwyr 1825 yn eu lle. Rodd hon yn cyfreithloni trefniadau gan undebau llafur ond yn cyfyngu'n llym ar eu gweithgaredd. Erbyn dechrau'r 19g, roedd Swydd Dorset yn enwog am lafur amaethyddol. Yn 1815, wedi Rhyfeloedd Napoleon, roedd 13% o'r boblogaeth yn derbyn cymorth i'r tlodion a gwaethygodd hyn yn y dirwasgiad amaethyddol a ddilynodd. Erbyn 1830 roedd amodau mor wael fod nifer fawr o weithwyr wedi ymuno â'r Terfysgoedd Swing oedd wedi effeithio ar dde Lloegr yr hydref hwnnw. Cafwyd mwy na phedwar-deg o helbulon yn y sir, gan ddau dreuan o lafurwyr rhai plwyfi. Cododd rhai tirfeddianwyr y cyflogau dros dro ond cynyddodd gorfodaeth gyfreithiol hefyd ac arestiwyd nifer o lafurwyr a'u carcharu. O fewn ychydig amser, cafodd y codiadau cyflog eu gwrthdroi.[3] Yn 1833 sefydlodd chwe dyn o bentref Tolpuddle 'Gymdeithas Llesiant Gweithwyr Fferm' fel protest yn erbyn gostyngiadau graddol yn y cyflogau amaethyddol.[4] Gwrthododd y gweithwyr hyn weithio am lai na 10 swllt yr wythnos, er bod cyflogau erbyn hyn wedi gostwng i saith swllt ac roedd disgwyl iddynt ostwng unwaith eto i chwech. Roedd y gymdeithas llesiant yn gweithredu ar gyfer crefft benodol o dan arweiniad George Loveless, pregethwr Methodistaidd lleol ac yn cwrdd yng nghartref Thomas Standfield.[5] Roedd grwpiau o'r fath yn aml yn defnyddio paentiad o ysgerbwd yn rhan o'r seremoni derbyn aelodau, ble rhoddid mwgwd dros lygaid yr aelod newydd a gwnaed iddo dyngu llw teyrngarwch. Yna, tynnid y mwgwd i ffwrdd a rhoddid y paentiad ysgerbwd iddynt i'w rhybuddio o'u marwoldeb eu hunain a hefyd eu hatgoffa o beth sy'n digwydd i'r sawl sy'n torri eu haddewidion. Mae esiampl o'r math o baentiad yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Hanes y Bobl ym Manceinion.[6] Erlyn a dedfryduYn 1834, ysgrifennodd James Frampton, ynad a thir feddiannwr yn Tolpuddle, at yr Ysgrifennydd Gwladol, sef yr Arglwydd Melbourne i gwyno am yr undeb. Argymhellodd yr Arglwydd Melbourne y dylai Frampton alw i rym Ddeddf Llwon Anghyfreithlon 1797, cyfraith anadnabyddus a gyhoeddwyd yn erbyn Miwtini Spithead a Nore a oedd yn gwahardd llwon cyfrinachol. Arestiwyd yr aelodau: James Brine, James Hammett, George Loveless, James Loveless brawd George, Thomas Stanfield, brawd-yng-nghyfraith George a John Standfield, mab Thomas. Cawsant eu rhoi ar brawf gyda'i gilydd o flaen y barnwr Syr John Williams yn yr achos R V Loveless ac Eraill.[7] Cafwyd y chwech yn euog o dyngu llwon cyfrinachol a'u dedfrydu i gael eu halltudio i Awstralia.[8][9] Pan gafodd ei ddedfrydu i saith mlynedd o alltudiaeth, ysgrifennodd George Loveless linellau o'r emyn undebol "The Gathering of the Unions" ar ddarn o bapur.[10][11][12] Alltudio, pardwn a dychwelyd![]() Hwyliodd James Loveless, y ddau Stanfield, Hammett a Brine ar y Surry i Dde Cymru Newydd, gan gyrraedd Sydney ar 17 Awst 1834. Roedd George Loveless yn hwyr oherwydd salwch a gadawodd yn nes ymlaen ar y William Metcalf i Dir Van Diemen gan gyrraedd Hobart ar 4 Medi.[13] O'r pump a gyrhaeddodd Sydney, cafodd Brine a'r ddau Standfield eu hanfon yn weithwyr ffarm rhydd yn Nyffryn Hunter. Rhoddwyd Hammett ar waith yn fferm Edward John Eyre sef "Queanbeyan", a James Loveless i fferm yn Strathallan. Yn Hobart, aseiniwyd George Loveless i fferm y rhaglaw Llywodraethwr Lefftenant Syr George Arthur.[14][15] Yn Lloegr daethant yn arwyr poblogaidd a chasglwyd 800,000 o lofnodion dros eu rhyddhau. Trefnodd eu cefnogwyr orymdaith wleidyddol, un o'r rhai cyntaf i fod yn llwyddiannus yn y DU, a rhoddwyd pardwn iddynt i gyd ym Mawrth 1836 ar yr amod y byddent yn ymddwyn yn dda a gyda chefnogaeth yr Arglwydd John Russell a oedd newydd ddod yn Ysgrifennydd Gwladol.[16] Pan gyrhaeddodd pardwn George Loveless, bu oedi cyn iddo allu gadael am nad oedd wedi cael ateb gan ei wraig yn dweud a oedd hi am ymuno ag ef yn Nhir Van Diemen. Ar 23 Rhagfyr 1836 cafodd lythyr yn adrodd na fyddai hi'n dod a hwyliodd Loveless o Dir Van Diemen ar 30 Ionawr 1837 gan gyrraedd Lloegr ar 13 Mehefin 1837.[17][18] Yn Ne Cymru Newydd, bu oedi cyn gallu hwylio'n gynnar gan fod yr awdurdodau'n araf i gadarnhau ymddygiad da'r carcharorion a'u rhyddhau o'u dyletswyddau. Gadawodd James Loveless, Thomas a John Standfield, a James Brine ar y John Barry ar 11 Medi 1837 gan gyrraedd Plymouth (un o'r mannau gadael ar gyfer llongau carcharorion) ar 17 Mawrth 1838. Mae plac ger y Mayflower Steps yn ardal hanesyddol y Barbican yn Plymouth yn coffáu hyn. Er y dylai fod wedi gadael gyda'r lleill, cadwyd James Hammett yn Windsor, wedi ei gyhuddo o ymosod tra gadawodd y lleill y drefedigaeth. Ni hwyliodd Hammett tan fis Mawrth 1839, gan gyrraedd Lloegr yn Awst 1839.[19][17][20] Bywyd diweddarachWedi dychwelyd, setlodd y Lovelessiaid, Stanfieldiaid a Brine ar ffermydd ger Chipping Ongar, Essex. Roedd y Lovelessiaid a Brine yn byw yn Tudor Cottage yn Greenstead Green. Allfudodd y pump yn ddiweddarach i dref London, Upper Canada (yn Ontario heddiw). Mae cofeb iddynt yno a hefyd gydweithrediad tai ac undebau wedi eu henwi ar eu hôl. Mae George Loveless a Thomas Standfield wedi eu claddu ym Mynwent Siloam ar Fanshawe Park Road East yn London, Ontario. Bu farw James Brine yn 1902 wedi byw yn y Blanshard Township gerllaw ers 1868, ac mae wedi ei gladdu ym mynwent y Santes Fair yn St. Marys, Ontario. Aeth Hammett yn ôl i Tolpuddle a bu farw yn wyrcws Dorchester yn 1891.[21] Amgueddfeydd![]() Mae Amgueddfa Merthyron Tolpuddle yn Tolpuddle, Dorset, yn cynnwys arddangosiadau am y merthyron a'u heffaith ar undebaeth lafur.[22] Mae Neuadd y Sir yn Dorchester, ble cafodd y Merthyron eu barnu, bellach yn amgueddfa sy'n cynnwys deunydd amdanynt.[23] Arwyddocâd diwylliannol a hanesyddolCodwyd cofeb iddynt yn Tolpuddle yn 1934 a gwnaethpwyd cerflun yn 2001. Mae'r cerflun o flaen yr Amgueddfa yn y pentref.[24] ![]() Mae Gŵyl Flynyddol Merthyron Tolpuddle fel arfer yn cael ei dathlu ar drydedd wythnos Gorffennaf. Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) sy'n ei threfnu ac mae'n cynnwys pared o faneri gan nifer o undebau, gwasanaeth coffa, areithiau a cherddoriaeth. Yn y gwyli diweddar cafwyd araith gan Tony Benn, cerddoriaeth gan Billy Bragg a chantorion gwerin lleol gan gynnwys Graham Moore, yn ogystal ag eraill o bedwar ban byd.[25] Nid yw'r cwrt lle barnwyd y merthyron wedi newid llawer yn y 200 mlynedd ers yr achos llys. Yn rhan o Neuadd y Sir yn Dorchester, mae'n cael ei ddiogelu fel rhan o gynllun treftadaeth.[26] Mae stori Tolpuddle wedi cyfoethogi hanes undebaeth llafur, ond mae eu pwysigrwydd yn dal i gael ei drafod ers i Sidney a Beatrice Webb ysgrifennu History of Trade Unionism (1894) ac mae'n parhau gyda gweithiau fel Craft Trade or Mystery gan Bob James (2001).[27][28] Enwir y lleoedd canlynol er anrhydedd iddynt:
Creewyd murlun yn Edward Square, ger Copenhagen Street, Islington, i goffau'r dyrfa a drefnwyd gan Bwyllgor Canolog Undebau Llafur Metropolitan i wrthdystio alltudiaeth y Merthyron i Awstralia. Peintiwyd y murlun gan yr arlunydd David Bangs.[29] Yn 1985 gosodwyd plac coffa ar gyfer Merthyron Tolpuddle yn Garema Place yng nghanol Canberra, prifddinas Awstralia. Mae'r ffilm hanesyddol Comrades o 1986 yn adrodd stori'r Merthyron drwy luniau llusernwr teithiol. Bill Douglas oedd y cyfarwyddwr ac mae'r cast yn cynnnwys James Fox, Robert Stephens a Vannessa Redgrave.[30] Perfformiwyd dram wedi ei seilio ar y ffilm Comrades yn Theatr Northcott, Exeter ar 23 Mawrth 2023. Roedd yn adrodd stori Merthyron Tolpuddle hyd at eu harestio. Cafodd ei ysgrifennu a'i chyfarwyddo gan Tony Lidington a myfyrwyr drama Prifysgol Caerwysg (Exeter) oedd yr actorion. Darlledwyd drama gerdd gan Alan Plater a Vince Hill 'Tolpuddle' ar y BBC ar 16 Hydref 1982.[31] Sonnir am y Merthyron hefyd yn y gerdd gan Daljit Nagra: "Vox Populi, Vox Dei".[32] Mewn seremoni yn 2020, dadorchuddiwyd plac gan Clifford Harper i goffáu'r dynion a ddaeth yn ôl i Plymouth o Awstralia Oriel
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia