Martin Docherty
Gwleidydd o'r Alban yw Martin Docherty (ganwyd 21 Ionawr 1971) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Orllewin Swydd Dunbarton; mae'r etholaeth yn swydd Gorllewin Swydd Dunbarton, yr Alban. Mae Martin Docherty yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin. Fe'i magwyd yn Clydebank a dechreuodd weithiod pan oedd yn 16 oed. Mynychodd sawl coleg gan dderbyn gradd mewn gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Essex ac yna Gradd Meistr mewn Celf yn Glasgow. wedi hynny dychwelodd i Clydebank lle bu'n gweithio fel Gweithiwr Cymdeithasol i'r WDCVS. Ymunodd â'r SNP yn 1991 ac fe'i etholwyd fel cyn gynghorydd ieuengaf yr Alban - ar Gyngor Sir Clydebank yn 1992, ag yntau'n ddim ond 21 oed.[1] Etholiad 2015Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[2][3] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Martin Docherty 30,198 o bleidleisiau, sef 59% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o +38.9 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 14,171 pleidlais. Gweler hefydCyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia