nofelydd, awdur ffuglen wyddonol, awdur storiau byrion, academydd, bywgraffydd, llenor, sgriptiwr, newyddiadurwr, awdur ysgrifau, beirniad llenyddol, sgriptiwr ffilm
The Rachel Papers, The Zone of Interest, Lionel Asbo: State of England, The Pregnant Widow, House of Meetings, Koba the Dread, Yellow Dog, Heavy Water and Other Stories, The Information, Other People, Dead Babies, The Information
Delilah Roberta Seale, Louis Amis, Jacob Amis, Fernanda Amis, Clio Amis
Gwobr/au
Gwobr Goffa James Tait Black, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Gwobr Somerset Maugham, Best of Young British Novelists, National Book Critics Circle Award in Criticism
Nofelydd o Loegr oedd Martin Louis Amis FRSL[1] (25 Awst1949 – 19 Mai2023).[2] Mae'n fwyaf adnabyddus am ei nofelau The Rachel Papers (1973) a Time's Arrow (1991). Enillodd e'r Wobr Goffa James Tait Black am ei gofiant Profiad Cafodd ei restru ddwywaith ar gyfer Gwobr Booker (rhestr fer yn 1991 ar gyfer Time's Arrow ac ar restr hir 2003 ar gyfer Yellow Dog ). Yn 2008, enwodd The Times ef yn un o hanner cant o lenorion mwyaf Prydain ers 1945. [3]
Ganed Amis ar 25 Awst 1949 yn Ysbyty Mamolaeth Radcliffe yn Rhydychen, [4] yn fab i'r nofelydd Seisnig nodedig Syr Kingsley Amis; [5] roedd ei fam, Hilary ("Hilly") Ann Bardwell, [6] yn ferch i was sifil yn y Weinyddiaeth Amaeth.[7] Yr oedd ganddo frawd hyn, Philip; bu farw ei chwaer iau, Sally, yn 2000. Ysgarodd ei rieni ym 1965.[8]
Cafodd ei fagu yn Abertawe, lle roedd ei dad yn gweithio ym mhrifysgol. Cafodd ei addysg yn yr Ysgol yr Esgob Gore , ac wedyn yn yr Ysgol Uwchradd y Bechgyn yn Swydd Gaergrawnt. [9] Ar ôl llwyddiant nofel gyntaf ei dad Lucky Jim (1954) symudodd y teulu i Princeton, New Jersey, Unol Daleithiau, lle bu ei dad yn darlithio. [2]
Ym 1965, yn 15 oed, chwaraeodd Amis rol yn y fersiwn ffilm o A High Wind in Jamaica gan y nofelydd Cymreig Richard Hughes. [2]
Roedd e'n Athro Ysgrifennu Creadigol yn y Ganolfan Ysgrifennu Newydd ym Mhrifysgol Manceinion o 2007 tan 2011.[10] Bu farw o ganser, yn 73 oed.
Cyfeiriadau
↑"Martin Amis". Royal Society of Literature (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-05-21. Cyrchwyd 21 Mai 2023.