Maria o Awstria, Ymerodres Lân Rufeinig
Ymerodres Gydweddog i Maximilian II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig oedd yr Archdduges Maria o Awstria (21 Mehefin 1528 – 26 Chwefror 1603). Gwasanaethodd Maria fel rhaglaw tra oedd ei thad, yr Ymerawdwr Siarl V, yn absennol o Sbaen rhwng 1548 a 1551, ac eto, rhwng 1558 a 1561 tra oedd ei brawd Felipe II, brenin Sbaen yn absennol. Ganwyd Maria ym Madrid yn ferch i Siarl V, Ymerawdwr Rhufeinig Sanctaidd a Brenin Sbaen, ac Isabella o Bortiwgal. Fe’i magwyd yn Toledo a Valladolid yn bennaf gyda’i brawd Felipe a chwaer Joanna. Ym 1548, yn 20 oed, priododd ei chefnder yr Archddug Maximilian.[1][2] Rhoddodd hi 16 o blant iddo yn ystod 28 mlynedd o briodas. Roedd hi a Maximilian yn Rhaglywiaid Sbaen tra roedd ei thad yn delio â materion gwleidyddol yn yr Almaen o 1548 i 1551. Ar ôl i'w thad ddychwelyd i Madrid fe symudon nhw i fyw yn llys tad Maximilian, Ferdinand I, yn Fienna. Ar ôl i Ferdinand farw ym 1564, daeth Maximilian yn Ymerawdwr. Er bod ei gŵr yn oddefgar ynghylch materion crefyddol, roedd Maria yn Babydd brwd. Bu farw Maximilian ym 1576, ond parhaodd Maria i fyw yn y llys ymerodrol yn Fienna tan 1582, pan ddychwelodd i Madrid, lle bu’n byw hyd at ei marwolaeth ym 1603. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia