Marguerite de Navarre
Margueritte de Navarre yw enw mwyaf cyfarwydd Marguerite d'Angoulême (11 Ebrill 1492 – 21 Rhagfyr 1549), a elwir hefyd Marguerite d'Alençon, Duchesse d'Alençon, chwaer Ffransis I, brenin Ffrainc (1494-1597), gwraig yn gyntaf i Ddug Alençon ac ar ôl marwolaeth y dug yn wraig i Henri d'Albret, brenin Navarre; trwy'r cysylltiad olaf mae hi'n hynafes i linach y brenhinoedd Bourbon. Roedd hi'n llenores Ffrangeg, yn awdur yr Heptaméron a gweithiau eraill. Roedd hi'n ddynes o gymeriad uchel, deallus, eangfrydig, hoff o fywyd ac yn credu mewn rhyddid ysbrydol ac eto ar yr un pryd yn ddefosiynol iawn yn ei chrefydd. Dysgodd Ladin, Eidaleg a Sbaeneg ac astudiodd Hebraeg hefyd. Edmygai waith Plato a hyrwyddodd gyfieithiadau o'i Ddeialogau. Cefnogai Évangélisme a rhoddodd nawdd yn ei llys i wŷr goleuedig a erlidid gan y diwinyddion uniongred, yn eu plith Lefèvre d'Étaples, y bardd Clément Marot (1496-1594) a'r ysgolhaig clasurol Bonaventure Des Périers (m. c. 1544); amddiffynai hefyd Jean Calvin (1509-1564). Gwaith LlenyddolEi phrif waith llenyddol yw'r Heptaméron, casgliad o chwedlau mewn stori fframwaith a gyhoeddwyd ar ôl ei marwolaeth (1558). Roedd hi'n barddoni hefyd a cheir rhai o'i cherddi gorau yn y cyfrolau Miroir de l'âme pécheresse a Chansons spitiruelles; cyhoeddwyd yr olaf gan aelod o'i llys dan y teitl Marguerites de la Marguerite des princesses. Ysgrifennodd yn ogystal nifer o ddramâu; y pwysicaf ydyw Comédie à dix personnages (1542), Comédie jouée à Mont de Marsan en 1547 a'r ddrama ysbrydol ddiddorol Comédie de la Nativité de Jésvs Christ (1547). Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau |
Portal di Ensiklopedia Dunia